Rhoi

Mewn dathliad rhyfeddol o greadigrwydd, cydweithio ac ysbryd cymunedol, bu Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a’i phartneriaid yn ganolbwynt sylw yn ddiweddar yng Ngwobrau Celfyddydau a Busnes mawreddog 2024; y 29ain tro iddo gael ei gynnal. Daeth yr elusen i’r brig, gan ennill dwy wobr uchel eu bri: Gwobr Celfyddydau, Busnes ac Iechyd a Gwobr Busnes y Flwyddyn. Mae’r anrhydedd ddwbl hon yn brawf o ymrwymiad yr elusen i integreiddio’r celfyddydau o fewn gofal iechyd, meithrin lles, ac adeiladu partneriaethau parhaol. 

Uchafbwynt y noson oedd y gydnabyddiaeth o gydweithrediadau eithriadol Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro gyda Rubicon Dance, Forget Me Not Chorus, a Motion Control Dance. Mae’r partneriaethau hyn nid yn unig wedi cyfoethogi bywydau unigolion di-ri ond maent hefyd wedi gosod meincnod ar gyfer integreiddio arloesol y celfyddydau mewn gwasanaethau iechyd. 

Mae’r Wobr Celfyddydau, Busnes ac Iechyd yn dathlu mentrau sy’n dangos sut y gall y celfyddydau effeithio’n gadarnhaol ar iechyd a lles. Mae prosiectau Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro gyda Rubicon Dance a Forget Me Not Chorus yn enghreifftiau o’r synergedd hwn. Trwy’r partneriaethau hyn, mae cleifion, staff a’r gymuned ehangach wedi profi pŵer trawsnewidiol symud a cherddoriaeth, gan ddarparu llawenydd, cysur, ac ymdeimlad o berthyn. 

Roedd Rubicon Dance, partner yn y llwyddiant hwn, hefyd yn disgleirio ar y noson arbennig hon, gan ennill ei wobr ei hun, sef Ymgynghorydd y Flwyddyn am gyfraniad eithriadol Gemma Barnett i waith Rubicon Dance. Mae dawns a symud yn cael eu defnyddio fel adnodd therapiwtig drwy eu gwaith gyda’r Elusen Iechyd, gan wella iechyd corfforol a gwydnwch emosiynol ymhlith cleifion. Mae’r perfformiadau a’r gweithdai rhyngweithiol yn dod â bywiogrwydd a gobaith i wardiau ysbytai a lleoliadau cymunedol, gan wneud dawns yn hygyrch i bawb. 

Cafodd Forget Me Not Chorus, partner gwerthfawr arall, ei ddathlu yn yr un modd. Yn adnabyddus am eu hymroddiad i gefnogi pobl sy’n byw gyda dementia drwy rym y gân, gwnaethant dderbyn Gwobr gyntaf Nicola Heywood Thomas am y celfyddydau, gan gydnabod eu dull arloesol o ymdrin ag iechyd a’r celfyddydau. Mae eu partneriaeth gydag Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi galluogi cyfranogwyr i ddod o hyd i lawenydd a chysylltiad drwy ganu, gan feithrin cymuned gefnogol i’r rhai yr effeithir arnynt gan ddementia a’u teuluoedd. 

Mae Motion Control Dance, sy’n rhan annatod o fentrau arobryn yr elusen, wedi hyrwyddo iechyd corfforol ac iechyd meddwl trwy symud creadigol. Mae cleifion sydd â dementia cynnar wedi gallu uniaethu’n arbennig â’u rhaglenni, sy’n hyrwyddo ffyrdd iach o fyw ac yn hybu hyder a hunan-barch. Mae cydweithrediad yr elusen â Motion Control Dance yn tanlinellu gweledigaeth a rennir o ddull cyfannol o ymdrin ag iechyd, lle mae gweithgarwch corfforol a mynegiant artistig yn mynd law yn llaw. 

Mae Gwobr Busnes y Flwyddyn yn pwysleisio rôl Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a thîm y Celfyddydau mewn Iechyd fel arweinydd wrth feithrin partneriaethau ystyrlon ac effeithiol. Mae eu dull gweledigaethol o ymgorffori’r celfyddydau mewn lleoliadau gofal iechyd yn dangos dealltwriaeth ddofn o botensial therapiwtig mynegiant creadigol. Mae’r wobr hon yn deyrnged i dîm ymroddedig y Celfyddydau yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, y mae ei ymdrechion diflino a’i raglenni arloesol wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol ym mywydau nifer. 

Nid noson o ennill gwobrau yn unig oedd dathliad Gwobrau Celfyddydau a Busnes 2024, ond testament o bŵer cydweithio. Mae straeon llwyddiant Rubicon Dance, Forget Me Not Chorus a Motion Control Dance yn tynnu sylw at effaith aruthrol integreiddio’r celfyddydau o fewn gofal iechyd. Gyda’i gilydd, maent wedi creu tapestri bywiog o obaith, iachâd a chymuned. 

Wrth i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro edrych ymlaen at y dyfodol, mae’r gwobrau yn gwasanaethu fel cydnabyddiaeth ac ysbrydoliaeth ac yn cadarnhau’n bendant, pan fo iechyd, busnes a’r celfyddydau yn dod at ei gilydd, nad yw’r canlyniadau yn ddim llai na rhyfeddol. 

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.