Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch o gyhoeddi bod Keith Magorimbo, Rheolwr Desg Gwasanaeth TG, wedi’i goroni’n Arwr Iechyd ar gyfer mis Medi.
Mae Keith wedi bod yn ei rôl ers dwy flynedd ac wedi ei ddisgrifio fel calon adran TG BIP Caerdydd a’r Fro. Mae wedi gweithio’n eithriadol o galed i wneud gwelliannau enfawr i ddesg y Gwasanaeth TG a elwir yn ffurfiol yn Ddesg Gymorth TG.
Yn ôl ei gydweithwyr, “Mae Keith wedi gweithio mor galed i ddod â phob tîm at ei gilydd, gwella morâl staff, a chyflwyno Porth Hunanwasanaeth rhagorol sy’n cwmpasu popeth. Mae ei gefnogaeth i’w holl aelodau staff heb ei hail. Mae’n ystyriol, yn dosturiol, ac yn gefnogol iawn. Hoffem ddiolch iddo am yr holl welliannau parhaus hyd yn hyn, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio tuag at Ddesg Gwasanaeth TG gwell fyth.”
Bydd Keith yn Arwr Iechyd ar gyfer mis Medi ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae wrth ei fodd gyda’r enwebiad am y wobr.
Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Park Plaza Caerdydd.
Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gweithio’n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni. Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk
Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw’r enwebai a’i rôl, yn ogystal â rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi’n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni’n Arwr Iechyd.
Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i’w ystyried ar gyfer y wobr.
Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi’r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i’n GIG anhygoel!