Mae Kathryn Ball wedi ymgymryd â’r her enfawr o gerdded 100 milltir trwy gydol mis Mai, fel rhan o Ymgyrch Gerdded mis Mai Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro. Mae hi’n codi arian i gefnogi Uned Epilepsi Cymru yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Daw cymhelliant Kathryn gan ei mab hynaf, Cieran, sydd wedi bod yn brwydro yn erbyn Epilepsi ag Ymwrthedd i Gyffuriau ers mis Ebrill 2012. Er gwaethaf ymdrechion parhaus, nid oes unrhyw feddyginiaeth wedi’i leddfu’n llwyr, gan adael Cieran yn agored i drawiadau heb rybudd, a heb unrhyw sbardunau amlwg. Mae hyn golygu ei fod ef a’i deulu yn gorfod bod yn gyson wyliadwrus.
Mae Cieran, sy’n cymryd rhan ar hyn o bryd mewn treial cyffuriau dan arweiniad Meddyg Ymgynghorol yn Uned Epilepsi Cymru yn Ysbyty Athrofaol Cymru, wedi gweld gostyngiad mewn trawiadau o fod bob wythnos i fod bob pythefnos, weithiau hyd yn oed bob mis. Fodd bynnag, nid yw’r feddyginiaeth newydd wedi darparu datrysiad llwyr.
Mae ymdrechion codi arian Kathryn wedi’u cyfeirio at gefnogi ymchwil hollbwysig yr Uned i frwydro yn erbyn Epilepsi. Hoffai hefyd ddiolch i’r tîm eithriadol sy’n cefnogi Cieran ar ei daith.
Dywedodd Kathryn: “Mae’r tîm ymchwil yn wych gyda Cieran. Diolch arbennig i Dee a’i thîm sy’n gwneud pob ymweliad yn bersonol ac yn hawdd i Cieran. Byddwn yn mynd mor bell â dweud ei fod wrth ei fodd yn mynd i’w apwyntiadau.”
Gan geisio cydbwyso ei her gyda’i gwaith ac ymrwymiadau eraill, nid yw ymdrech Kathryn yn dasg rhwydd. I’w roi mewn persbectif, bydd hi’n teithio’r pellter o Gaerdydd i Sir Benfro, gan brofi ei choesau i’r eithaf.
Ar ran pawb yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, pob lwc a diolch enfawr i Kathryn am ei hymroddiad a’i chefnogaeth.
Er mwyn cefnogi ymroddiad Kathryn a chyfrannu at ymchwil epilepsi arloesol yn BIPCAF, gellir cyfrannu trwy’r dudalen JustGiving.
Wedi’ch ysbrydoli? Edrychwch ar ein gwefan i ddod o hyd i ffyrdd o godi arian ar gyfer eich ysbyty lleol neu rhannwch eich syniadau codi arian gyda ni: fundraising.cav@wales.nhs.uk.