Donate

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi derbyn rhodd mewn ewyllys yn ddiweddar gan glaf a oedd yn ddiolchgar am y driniaeth a’r gofal a gafodd gan staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Roedd Huw Robert Barnes o Abercynon, yn dioddef o’r cyflwr oes, Diabetes. Bu Huw yn cael trafferth â’i gyflwr ers pan oedd yn naw oed. 

Ym mis Ionawr 2005, roedd Huw yn ffodus iawn o gael trawsblaniad dwbl – sef pancreas ac aren ar yr un pryd. Diolch i roddwr organau, roedd wedi cael ei fywyd yn ôl – roedd y trawsblaniad wedi achub ei fywyd.

Ar ôl y trawsblaniad, roedd Huw yn gallu mynd yn ôl i fyw bywyd mor normal â phosibl, yn rhedeg ei gwmni ei hun, yn cymryd rhan yn ei ddiddordebau ac yn teithio’r byd.

Yn anffodus, dirywiodd iechyd Huw yn y blynyddoedd diwethaf. Roedd yn dod i’r ysbyty’n aml i gael sylw a gofal ar gyfer ei anghenion parhaus. Yn anffodus, bu farw Huw ar 8 Mawrth 2020.

Cysylltodd teulu Huw ag Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro i ddweud bod Huw wedi gadael rhodd i Ysbyty Athrofaol Cymru yn ei ewyllys. Yma, mae brawd Huw, Richard Barnes, yn dweud wrthym fod Huw yn dymuno cefnogi’r adrannau a oedd wedi gofalu amdano.

Dywedodd Richard: “Roedd colli Huw wedi gadael gwacter mawr yn fy mywyd. Ef fyddai canolbwynt y sylw bob amser. Roedd yn ddrygionus iawn, yn glên ac yn mwynhau ei hun.

“Roedd y galar roeddwn i’n ei deimlo wedi colli fy mrawd yn aruthrol, ond roedd helpu i sicrhau bod ei ddymuniadau olaf yn cael eu cyflawni yn fy helpu i ddod i delerau â hynny. Roedd Huw wedi nodi’n benodol yn ei ewyllys ei fod yn dymuno gadael £10,000 i ddiolch i’r bobl a oedd wedi achub ei fywyd. 

“Roedd Huw hefyd wedi gadael ei gorff ar gyfer y gwyddorau meddygol, er mwyn i fyfyrwyr meddygaeth heddiw gael sgiliau ac ymchwil gwerthfawr ar gyfer y dyfodol – roedd yn ddyn mor anhunanol.

“Bydd yr arian yn cael ei rannu rhwng yr Uned Diabetes ac Uned Trawsblaniadau Caerdydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru, lle derbyniodd Huw gymaint o’i driniaeth, felly mae ei waddol yn parhau.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut gallwch adael rhodd yn eich ewyllys nawr i wneud gwahaniaeth ar gyfer y dyfodol, ewch i: https://healthcharity.wales/how-you-can-help/gift-in-wills/ neu ffoniwch ni i gael sgwrs i drafod eich dymuniadau ar 02921 836040.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.