Bu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ynghyd â’i elusen swyddogol, Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, yn dathlu agoriad Horatio’s Garden yng Nghanolfan Adsefydlu Arbenigol yr Asgwrn Cefn a Niwroadsefydlu Ysbyty Athrofaol Llandochau ar ddydd Sadwrn 2 Gorffennaf.
I gefnogi creu’r ardd, yn hael iawn, fe ddarparodd BIP Caerdydd a’r Fro y tir a chyfrannodd Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn sylweddol at ddatblygu’r safle a’i gynnal a’i gadw.


Horatio’s Garden Cymru yw’r gyntaf o’i math yng Nghymru, ac mae’r ardd hygyrch drawiadol ar gael i gleifion, staff ac ymwelwyr i’w mwynhau drwy gydol y flwyddyn. I agor yr Ardd yn swyddogol, ymwelodd yr arwr rygbi, Syr Gareth Edwards, â’r noddfa werdd a mynd ar daith o’i hamgylch, a dywedodd, “Rwyf wrth fy modd bod gan Gymru Horatio’s Garden. Bydd yn rhoi lle i bobl ag anafiadau trawmatig dreulio amser ym myd natur ac yn darparu ardal i ffwrdd o’r ward lle gallant fwynhau amser gyda theulu a ffrindiau. Gall anaf i’r asgwrn cefn ddigwydd i unrhyw un, fel y gwyddom o’n profiadau ym myd rygbi, a gall yr ardd brydferth hon gynnig rhywfaint o ryddhad i bobl sy’n mynd trwy gyfnod anodd iawn.”
Bu Dr Olivia Chapple, Sylfaenydd Horatio’s Garden a Chadeirydd yr Ymddiriedolwyr, yn arwain yr areithiau yn ystod y prynhawn, gan ddiolch i’r cyfranwyr niferus am lansiad llwyddiannus. Mynegodd yr Athro Charles Janckewski, Cadeirydd BIP Caerdydd a’r Fro, a Suzanne Rankin, Prif Weithredwr BIP Caerdydd a’r Fro eu diolch hefyd am yr ardd, a’u gobaith am wella iechyd a lles staff a chleifion gyda natur a’r amgylchedd.

Dywedodd Fiona Jenkins, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi Horatio’s Garden Cymru. Mae’r ardd yn cyd-fynd â’n gweledigaeth ehangach ar gyfer hyrwyddo iechyd, lles ac adferiad trwy gysylltiad ag amgylcheddau awyr agored. Mae’r ardd o fudd mawr i gleifion a staff a bydd yn cael effaith enfawr am flynyddoedd i ddod. Diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect.”

Dywedodd Dr Shanbhag, Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Adsefydlu (Anaf i’r asgwrn cefn), “Rydym wedi sylwi ar effaith gadarnhaol yr ardd wrth godi calon y cleifion. Mae’n lle diogel a thawel i gleifion ei fwynhau ar ôl gweithio’n galed ar eu therapïau ar gyfer eu hadsefydliad. Mae’r staff hefyd wedi elwa o olygfeydd o’r ardd fel gwrthgyferbyniad llwyr i’r lleoliadau clinigol.” Cynlluniwyd yr ardd gan enillydd dwbl Medal Aur RHS Chelsea, Sarah Price, gyda chleifion a theuluoedd y rhai ag anafiadau sy’n newid bywyd mewn golwg.







