Ar 11 Mai, bu Morgan, Olly, Stephen a Frank, sy’n grŵp o ffrindiau, yn ymgymryd â her CarTen100 ac yn helpu i godi arian ar gyfer Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.
Gwnaethant gofrestru ar gyfer y digwyddiad peth amser yn ôl gan fod ganddynt ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y daith seiclo, gyda’u ffrind Sarah yn ymuno â nhw fel gyrrwr cymorth ac yn dod â nhw adref o Ddinbych-y-Pysgod ar y diwrnod.
Fodd bynnag, ym mis Ebrill eleni (2024), bu Sarah yn brwydro yn erbyn haint ar y glust a rhwyg yn nhympan y glust. Ar ôl cael presgripsiwn am wrthfiotigau a phoenladdwyr, treuliodd Sarah noson yn dioddef o gur pen eithafol ac yn chwydu, ac fe’i hanfonwyd i’r ysbyty. Dros gyfnod o dridiau, cafodd Sarah haint yn y glust fewnol wedi’i ddraenio a rhagor o wrthfiotigau ar bresgripsiwn.
Yn anffodus, nid oedd y driniaeth yn ddigon a pharhaodd Sarah i ddioddef nes i Morgan ddod o hyd iddi’n anymwybodol
Rhuthrwyd Sarah i Ysbyty Athrofaol Cymru lle cafodd ddiagnosis o haint difrifol ar yr ymennydd a achoswyd gan lid yr ymennydd meningococol. Hyd yn oed ar ôl pum wythnos, roedd Sarah yn parhau i fod yr Uned Gofal Dwys.
Yn ystod y cyfnod cythryblus hwn, rhannwyd gymaint o gariad a dymuniadau da gan ffrindiau, ac mae Morgan wedi teimlo effaith yr holl ofal a sylw gan bob un o staff y GIG a ddaeth ar eu traws; o barafeddygon hyd at nyrsys, meddygon ymgynghorol yr Uned Gofal Dwys, therapyddion, microbiolegwyr a niwrolawfeddygon. Fe’i gwnaed yn amlwg yn gynnar fod achos Sarah yn arbennig o gymhleth ac y bydd ei llwybr at adferiad yn hir ac ansicr.
Gyda’r holl ymdrech yn cael ei roi tuag at ofal Sarah, mae Morgan wedi teimlo’r angen i wneud rhywbeth mwy i helpu. Er bod y CarTen wedi’i drefnu’n wreiddiol i fod yn ‘daith seiclo yn unig’, mae Morgan, Olly, Stephen a Frank wedi troi’r her yn un i godi arian. Ar hyn o bryd, maen nhw wedi codi dros £3,500, gyda tharged cychwynnol o £500, sy’n anhygoel! Os hoffech chi helpu i gefnogi eu taith a chyfrannu, ewch i’w tudalen JustGiving yma. Bydd yr holl arian yn dod i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.
Oddi wrth bawb yn yr Elusen Iechyd, rydym mor ddiolchgar i Morgan, Olly, Stephen a Frank am eu hymdrechion sylweddol i godi cymaint o arian. Dymunwn y gorau i Sarah ar ei thaith i adferiad.
Os ydych chi’n teimlo eich bod wedi’ch ysbrydoli i ymgymryd â her eleni, mae lleoedd ar gael o hyd ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd ar 6 Hydref. I ddarganfod mwy ac i fynegi eich diddordeb, e-bostiwch fundraising.cav@wales.nhs.uk