
Blwyddyn newydd, her newydd!
Beth am gymryd rhan yn Hanner Marathon eiconig Caerdydd ar 6 Hydref a helpu i godi arian ar gyfer eich ysbytai lleol. Gyda’ch help chi, gallwn wneud gwahaniaeth ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw cofrestru i gael lle rhad ac am ddim ac ymrwymo i godi £300 o nawdd ar gyfer Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.
Anfonwch e-bost at fundraising.cav@wales.nhs.uk i gofrestru eich diddordeb ac fe wnawn ni anfon ffurflen gais atoch.
