Edrychwch ar rai o’n rhedwyr anhygoel a gymerodd ran yn Hanner Marathon Caerdydd 2023 ar ddydd Sul 1 Hydref! Roedd yr awyrgylch yn anhygoel i’r holl gyfranogwyr a gwblhaodd y daith ar draws Caerdydd.
Diolch o waelod calon i bob unigolyn a wisgodd eu hesgidiau rhedeg i gefnogi Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro. Fe wnaethoch ein helpu i gasglu £39,000 (swm sy’n dal i godi!) er budd cleifion a staff ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae hwn yn gyflawniad gwirioneddol ysbrydoledig, ac rydym mor ddiolchgar am yr holl gefnogaeth.
Yn y llun gwelwn y Neuronners, a lwyddodd i godi swm arbennig o £1,821.31 ar gyfer Apêl Prop, ymhell dros eu targed codi arian, a Jane Chesterman gyda’i merched cefnogol, a gododd swm anhygoel o £923.75 ar gyfer Apêl Canolfan y Fron.
Cadwch lygad am gyfleoedd i herio’ch hun blwyddyn nesaf, byddwn yn eu cyhoeddi ar ddechrau 2024. Yn yr ysbryd o fod yn benderfynol ac yn hael, gadewch i ni barhau i redeg tuag at ddyfodol mwy disglair ac iachach i bawb.
Gallwch barhau i gefnogi ein rhedwyr drwy ymweld â’u tudalennau JustGiving.