Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch o gyhoeddi bod Gwawr Davies-Jones, Fferyllydd ac Uwcharolygydd Fferyllol/Perchennog Fferyllfa’r Stryd Fawr yn y Barri, sy’n gwasanaethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, wedi’i choroni’n Arwr Iechyd ar gyfer mis Medi.
Yn 2016, gwnaeth Gwawr a’i phartner busnes gymryd rheolaeth dros Fferyllfa’r Stryd Fawr yn y Barri. Er bod y busnes wedi parhau i dyfu, maen nhw wedi uwchraddio’r fferyllfa a’r gwasanaethau clinigol sydd ar gael. Yn fwy diweddar, mae’r fferyllfa wedi cael ei haddasu i ddarparu gwasanaeth dosbarthu mwy effeithlon, gan gadw rhai o’i gosodiadau hanesyddol a chynyddu nifer yr ystafelloedd ymgynghori sydd ar gael i ddarparu eu gwasanaethau clinigol ohonynt.
Yn 2021, cymhwysodd Gwawr fel fferyllydd rhagnodi annibynnol ac mae wedi bod yn cynnig gwasanaeth rhagnodi mân anhwylderau a ariennir gan y GIG o’r fferyllfa, ochr yn ochr â gwasanaethau fferylliaeth gymunedol eraill, gan gynnwys y Gwasanaeth Anhwylder Cyffredin, Profi a Thrin Llwnc Tost, Gwasanaethau Atal Cenhedlu, a Brechiadau rhag y Ffliw.
Yn 2022, lansiwyd y gwasanaeth Presgripsiynu Fferyllol Annibynnol (PIP) mewn fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru. Mae hyn yn caniatáu i fferyllwyr PIP gynnig gwasanaethau clinigol hygyrch ac ar alw ar gyfer mân anhwylderau brys o fewn cwmpas eu hymarfer.
Yn ddiweddar, yn ystod apwyntiad arferol yn y clinig, sylweddolodd Gwawr yn gyflym bod ei chlaf yn dirywio’n gyflym. Cysylltodd Gwawr â theulu’r claf a dod i’r casgliad bod rhywbeth mwy difrifol yn digwydd. Gyda’r parch a’r gofal mwyaf tuag at y claf, sicrhaodd ei fod yn cael ei drosglwyddo i Ysbyty Athrofaol Cymru i gael gofal parhaus yn yr Uned Gofal Dwys.
Dywedodd Louise Allen, Pennaeth Fferylliaeth Gymunedol, “Hoffai’r Bwrdd Clinigol Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Chanolraddol ddiolch i Gwawr am lefel barhaus y gwasanaeth y mae ei fferyllfa yn ei chynnig, a lefel y gofal a ddarperir i’w chleifion yn y lleoliad gofal sylfaenol a chymunedol hwn. Yn benodol, hoffem ganmol Gwawr am y cymorth a roddodd i glaf sâl iawn a oedd angen gofal brys ar unwaith, gan sicrhau ei fod yn cael ei dderbyn i’n gwasanaethau ysbyty.”
Bydd Gwawr yn Arwr Iechyd ar gyfer mis Medi ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae hi wrth ei bodd gyda’r enwebiad am y wobr.
Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Park Plaza Caerdydd.
Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gweithio’n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni.
Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk
Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw’r enwebai a’i rôl, yn ogystal â rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi’n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni’n Arwr Iechyd.
Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i’w ystyried ar gyfer y wobr.
Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi’r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i’n GIG anhygoel!