Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch o fod yn gweithio gyda’r artistiaid sefydledig Harry Holland a Susannah Fiennes i nodi 75 mlynedd o fodolaeth y GIG gyda phortread o aelod o staff.

Ydych chi’n gweithio gyda rhywun ysbrydoledig sy’n haeddu cael ei ddathlu? Byddem wrth ein bodd yn derbyn eich enwebiadau a chlywed am yr holl aelodau gwych o staff sy’n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.