Rhoi

Ym mis Rhagfyr eleni, mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn dathlu 10 mlynedd ers iddyn nhw wneud pethau’n well i gleifion, ymwelwyr, staff a’r gymuned ehangach.

Roedd yr Elusen Iechyd wedi bwriadu cynnal digwyddiad i ddathlu 10 mlynedd, er mwyn cofio am y prosiectau enfawr y mae wedi’u hariannu, gan ddathlu cyfraniad rhoddwyr, pobl sydd wedi codi arian a gwirfoddolwyr a phartneriaid cymunedol dros y degawd diwethaf. Yn anffodus, oherwydd y Coronafeirws roedd yn rhaid canslo’r cynlluniau hyn. Felly bydd yr Elusen Iechyd yn edrych yn ôl dros sut mae ei rhoddwyr, pobl sydd wedi codi arian, gwirfoddolwyr a phartneriaid cymunedol wedi helpu i newid pethau er gwell dros y deng mlynedd diwethaf.

Yn ystod y deng mlynedd diwethaf, mae’r Elusen Iechyd wedi gweithio’n ddiflino i gefnogi cleifion a staff. Maen nhw wedi gwneud yr amgylchedd yn fwy croesawgar ac wedi darparu eitemau sydd ddim yn cael eu cefnogi gan gyllid arferol y GIG. Yn aml, y pethau bychain i gefnogi profiad y claf sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf.

Bob mis bydd yr Elusen Iechyd yn rhannu atgofion o bob blwyddyn, gan gychwyn gyda mis Rhagfyr 2010, ac yn tynnu sylw at y prif weithgareddau codi arian a’r bobl wnaeth godi arian yn ystod y cyfnod hwn.

Mae eleni wedi bod yn flwyddyn unigryw i’r Elusen Iechyd. Cafwyd llai o incwm oherwydd y bu’n rhaid canslo llawer o ddigwyddiadau codi arian er mwyn helpu i atal y feirws rhag lledaenu.

Cafwyd cefnogaeth wych gan y gymuned leol a’r gymuned ehangach mewn ymateb i’r ymgyrch #SpreadTheLove. Daeth cymunedau at ei gilydd i roi bwyd i staff y rheng flaen a rhoddwyd eitemau ymolchi iddynt er mwyn sicrhau bod staff a oedd yn gweithio shifftiau hir yn gallu ffresio ar ôl tynnu eu Cyfarpar Diogelu Personol llawn. Daeth pobl o bob oed at ei gilydd i gymryd rhan mewn gweithgareddau codi arian, fel eillio’r pen, digwyddiadau rhedeg rhithiol, gwerthu teganau a chacennau er mwyn codi arian i gefnogi’r GIG sy’n agos at eu calon ar adeg pan mae arnynt ei angen fwyaf.

Dyma rai o’r prif gyflawniadau dros y ddeng mlynedd diwethaf:

  • Cyllido Canolfan Gofal y Fron wedi’i hadeiladu’n arbennig yn Ysbyty Athrofaol Llandochau
  • Uwchraddio offer mamograffi
  • Cyllido offer sganio cludadwy
  • Agor Galeri’r Hearth yn Ysbyty Athrofaol Llandochau
  • Cyllido Ystafell Addysg Sgiliau Meddygol yn Ysbyty Athrofaol Cymru
  • Codi dros £100,000 yn ystod Hanner Marathon Caerdydd 2018
  • Ennill Medal Arian-Gilt gan Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol Caerdydd am ein cynnig a gafodd ei ysbrydoli gan Ein Berllan

Dywedodd Akmal Hanuk, Cadeirydd y Pwyllgor Cronfeydd Elusennol: “Rwy’n falch iawn o’r elusen wych hon rydyn ni wedi’i hadeiladu yn ystod y deng mlynedd diwethaf. Rydyn ni wedi gallu cefnogi cymaint o brosiectau gwerth chweil sy’n gwneud cymaint o wahaniaeth i’n cleifion a’n staff – ond fydden ni ddim yn gallu gwneud hynny heb y rhoddwyr a’r bobl hael sy’n codi arian.

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un arbennig o heriol i bawb ohonom, yn ogystal â llawer o elusennau eraill, gyda llawer o ddigwyddiadau codi arian yn cael eu canslo. Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar am y gefnogaeth barhaus gan bawb yn ystod y cyfnod anodd hwn ac rwy’n edrych ymlaen gyda gobaith at y 10 mlynedd nesaf i gael cefnogi llawer o brosiectau eraill gwerth chweil yn y dyfodol.”

Dywedodd Simone Joslyn, Pennaeth y Celfyddydau yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro: “Mae dathlu 10 mlyneddth ers i ni gael ei sefydlu wedi rhoi cyfle i ni fyfyrio ar ba mor bell rydyn ni wedi dod fel elusen, nid yn unig yn ariannol, ond hefyd y gwahaniaeth rydyn ni wedi’i wneud i’n cleifion, staff, gwirfoddolwyr, teuluoedd a’n cymunedau yn ystod y cyfnod hwn.

“Fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth anhygoel ein rhoddwyr, cefnogwyr a’r holl bobl sy’n codi arian i ni, yn ogystal â gwaith caled ein gwirfoddolwyr a’n staff. Hoffwn ddweud ‘diolch yn fawr’ wrth bawb am eu cefnogaeth yn ystod y 10 mlynedd diwethaf.”

Os hoffech chi gefnogi Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a rhoi £10 i ddathlu 10 mlynedd ewch i www.healthcharity.wales/donate

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.