Donate

Mae’n bleser gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro gyhoeddi bod Eleri Crudgington, Rheolwr Gweithrediadau, Gwasanaethau Arbenigol Cymunedol wedi’i choroni’n Arwr Iechyd ar gyfer mis Rhagfyr.

Enwebwyd Eleri ar gyfer Arwr Iechyd oherwydd ei chefnogaeth barhaus a’i hangerdd dros iechyd, diogelwch a lles cydweithwyr a chleifion. Mae hi’n ymrwymedig i bopeth mae hi’n ei wneud, gan sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn ganolog i unrhyw ddatblygiadau, ac mae hi bob amser yn mynd gam ymhellach.

Dywedodd Ceri Waters, Rheolwr Gweinyddol a Gweithredol Ardal, “Mae Eleri yn darparu angerdd ac ymrwymiad i Ysbyty Brenhinol Caerdydd (CRI) yn ei holl rolau. Mae’n bwysig cydnabod, er nad yw’n rhan o’i swydd, ei bod wedi rhoi cymaint o amser ac ymdrech i wella’r safle fel Cadeirydd Grŵp Defnyddwyr CRI, gan gadw staff a chleifion wrth wraidd gofal.”

Dywedodd Loretta a Mandy, sydd ill dau yn gweithio yng nghaffi Aroma yn CRI, “Mae Eleri yn rheolwr CRI anhygoel, bob amser yn sicrhau ein bod ni’r menywod yn y caffi yn ddiogel; mae hi’n cysylltu â ni’n rheolaidd gan ein bod ni’n weithwyr unigol ac yn agored i niwed. Gallwn bob amser fynd ati gan wybod y bydd hi’n gwrando ac yn gwneud ei gorau i sicrhau ein diogelwch a’n lles. Mae hi’n hawdd siarad â hi ac yn garedig ac rydyn ni’n teimlo ein bod ni’n gallu siarad â hi am unrhyw beth oherwydd ei bod hi wir yn poeni amdanon ni.

“Yn ddiweddar fe brofon ni sefyllfa ofidus a brawychus yn ymwneud â pherson a oedd yn camddefnyddio sylweddau. Gwnaethom godi ein pryderon gydag Eleri a chysylltodd yn syth â’r bobl berthnasol i ddatrys y sefyllfa’n foddhaol.”

Dywedodd Sheila Williams, Rheolwr Datblygu Prosiect Clwstwr, “Beth bynnag yw’r sefyllfa, does dim byd yn ormod o drafferth i Eleri, a bydd hi bob amser yn gwneud ei gorau i helpu cydweithwyr, contractwyr, cleifion ac ymwelwyr yn CRI. Hi yw’r person rydyn ni bob amser yn troi ato am unrhyw beth sy’n ymwneud â CRI. Gan ddefnyddio ei chyfoeth o wybodaeth a chysylltiadau, mae hi wedi chwarae rhan allweddol wrth drefnu digwyddiadau fel dathliad canmlwyddiant CRI ac agoriad swyddogol Capel i Bawb, y gwaith o osod ystafell weddi, gosod diffibriliwr yn y maes parcio, gosod cyflenwadau nalocson mewn gwahanol leoliadau ledled yr ysbyty a threfnu hyfforddiant i staff ar sut i’w ddefnyddio, a llawer mwy.

“Mae gwybod bod Eleri bob amser ar gael ac yn hawdd mynd ati yn gwneud gweithio yn CRI yn bleser.”

Bydd Eleri yn Arwr Iechyd ar gyfer mis Rhagfyr ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae hi wrth ei bodd gyda’r enwebiad am y wobr.

Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Park Plaza Caerdydd.

Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gweithio’n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni. Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw’r enwebai a’i rôl, yn ogystal â rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi’n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni’n Arwr Iechyd.

Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i’w ystyried ar gyfer y wobr.

Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar X i roi’r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i’n GIG anhygoel!

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.