Rhoddwyd nifer o eitemau cegin a lles i adrannau ledled BIP Caerdydd a’r Fro yn ystod Pandemig COVID-19 drwy gyllid gan NHS Charities Together i wella profiad staff a chleifion.
Eitemau Cegin ar gyfer yr Adran Maeth a Deieteg
Gofynnodd yr Adran Maeth a Deieteg am sawl adnodd i wella’r amgylchedd ar gyfer y chwe deg aelod o staff sy’n defnyddio’r swyddfa. Mae’r eitemau a roddwyd yn cynnwys: sugnwr llwch fel y gall staff gadw’r lle yn lân ac yn daclus, digon o gyllyll a ffyrc i staff eu defnyddio amser cinio a rhewgell fach i gadw diodydd yn oer yn y tywydd poeth. Mae’r eitemau hyn wedi galluogi staff i fwynhau eu hegwyl cinio yn fwy cyfforddus.
Eitemau Amser Bwyd ac Egwyl ar gyfer yr adran Therapi Galwedigaethol yn Ysbyty Dewi Sant


Gofynnodd yr adran Therapi Galwedigaethol yn Ysbyty Dewi Sant am degell a microdon newydd yn lle’r eitemau blaenorol a ddaeth yn anaddas at y diben. Roedd yr eitemau newydd yn caniatáu i staff gael prydau digonol i ginio yn ogystal â rhoi hwb i forâl gyda the a choffi drwy gydol y dydd.
Systemau Sain a Seinydd ar gyfer yr adran Therapi Galwedigaethol yn Ysbyty Athrofaol Llandochau

Gofynnodd yr adran am chwaraewr recordiau i gefnogi cleifion â Dementia i wrando ar gerddoriaeth a gwella eu gallu i ganolbwyntio, cyfathrebu, cofio a hel atgofion personol. Roedd y seinydd a roddwyd i’r adran hefyd yn fuddiol nid yn unig i chwarae cerddoriaeth ar gyfer grwpiau therapi ond i wella’r profiad i gleifion â nam ar eu clyw.
Roedd yr eitemau a brynwyd ar gyfer yr adrannau hyn yn cynorthwyo cyfforddusrwydd staff a chleifion trwy gydol y Pandemig COVID-19. Rydym yn ddiolchgar i NHS Charities Together am roi’r arian i wneud hyn yn bosibl.