Donate

Mae Noddwr Elusennau’r GIG Gyda’i Gilydd, Ei Uchelder Brenhinol Dug Caergrawnt, wedi siarad ag Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, sef elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, am sut mae cronfeydd Covid-19 Elusennau’r GIG Gyda’i Gilydd wedi helpu i wneud gwahaniaeth i gleifion a staff ledled Caerdydd a’r Fro.

Daeth Dug a Duges Caergrawnt yn noddwyr Elusennau’r GIG Gyda’i Gilydd ar y cyd ym mis Rhagfyr 2020.

Bu’r Tywysog William yn siarad ar y ffôn (ar ddydd Mawrth, 9 Mawrth 2021) â Simone Joslyn, Pennaeth y Celfyddydau ac Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, am ymateb y Bwrdd Iechyd a’r Elusen Iechyd i Covid-19 drwy ddefnyddio cronfeydd Elusennau’r GIG Gyda’i Gilydd.

Cafodd Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro gyllid uniongyrchol a chyflwynodd geisiadau llwyddiannus am grantiau gan Elusennau’r GIG Gyda’i Gilydd. Mae’r arian wedi cael ei wario ar nifer o gynlluniau sy’n ceisio gwella profiadau cleifion ac amgylchedd gwaith staff, fel:

  • Gwaith partneriaeth gyda grwpiau iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn ymgysylltu mwy â chymunedau BAME, teithwyr ac LGBT
  • Prosiect celf Mae Bywydau Du o Bwys
  • Cyfarpar arbenigol i fenywod sy’n rhoi genedigaeth i’w helpu i fod yn fwy cyfforddus ac er mwyn i’r esgor fod yn fwy effeithiol
Siaradodd Simone Joslyn â’i Uchelder Brenhinol Dug Caergrawnt am sut roedd cronfeydd Covid-19 Elusennau’r GIG Gyda’i Gilydd wedi helpu i wneud gwahaniaeth i gleifion a staff.

Arferai Simone fod yn nyrs iechyd meddwl, ond hi bellach yw Pennaeth Rhaglen y Celfyddydau ac Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, ac mae hi hefyd yn arwain prosiect Ein Berllan. Prosiect cae glas yw Ein Berllan, a fydd yn darparu gofod lles yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, gan gynnwys gardd gwenyn, parc cerfluniau, rhandiroedd therapiwtig, gerddi o blanhigion bwytadwy, a choed ac mae’n un o nifer o brosiectau’r Bwrdd Iechyd sy’n datblygu ein partneriaethau cymunedol, gan gynnwys gwirfoddolwyr, gweithio gyda’r gwasanaeth prawf a chynnwys ysgolion lleol.

Dywedodd Simone: “Roedd yn fraint derbyn yr alwad hon ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a chael y cyfle i siarad â’i Uchelder Brenhinol Dug Caergrawnt ynghylch y prosiectau pwysig y mae arian Elusennau’r GIG Gyda’i GIlydd wedi ein helpu ni i’w datblygu.

“Mae cyllid gan Elusennau’r GIG Gyda’i Gilydd wedi gwneud byd o wahaniaeth i’n cleifion a’n staff ac mae wedi ein galluogi ni i gefnogi a chynnwys meysydd eraill yn ein cymuned y mae Covid-19 wedi effeithio’n fwyaf sylweddol arnynt. Rydym wedi gallu cefnogi gwahanol grwpiau anodd eu cyraedd a gwneud gwahaniaeth i’r gofal maent yn ei dderbyn yn ogystal â gwella profiadau cleifion.

“Mae Tîm Elan yn un maes sydd wedi cael cyllid Elusennau’r GIG Gyda’i Gilydd. Mae bydwragedd Tîm Elan yn gofalu am fenywod sydd angen cefnogaeth gymdeithasol ychwanegol. Bydd yr arian yn helpu i dalu am eitemau hanfodol i geiswyr lloches sy’n feichiog, sy’n aml yn dod o gefndiroedd BAME a difreintiedig.”

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.