Rhoi

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch o gyhoeddi bod Dr Stuart Gray, Meddyg Teulu, Canolfan Feddygol yr Eglwys Newydd, wedi’i goroni’n Arwr Iechyd ar gyfer mis Gorffennaf. 

Ymunodd Dr Gray â Chanolfan Feddygol yr Eglwys Newydd fel Meddyg Teulu yn 2014 ac mae’n angerddol dros gefnogi cleifion. 

Wedi’i enwebu gan glaf, roedd yn amlwg bod Dr Gray bob amser yn cymryd ei amser ac yn gwrando ar yr hyn sydd gan ei gleifion i’w ddweud, gan obeithio sicrhau’r canlyniad gorau. 

Dywedodd y claf, “Mae gen i gyflwr o’r enw endometriosis, ac rydw i wedi gorfod newid practis meddyg teulu yn y gorffennol yn sgil cael fy niystyru a’r meddyg ddim yn gwrando arna i. Am y 5 mlynedd diwethaf, rwyf wedi bod gyda Dr Gray yng Nghanolfan Feddygol yr Eglwys Newydd ac mae’r gofal ganddo wedi bod yn rhagorol; mae bob amser yn gwrando, yn deall, ac yn rhoi tawelwch meddwl i mi.” 

Nodwyd bod Dr Gray bob amser yn ymdrechu i ateb pob cwestiwn, ond os yw’n ansicr, mae’n aml yn gwneud gwaith ymchwil ac yn sicrhau ei fod yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r claf. 

“Mae’n dosturiol iawn ac nid yn unig yn gofalu am fy iechyd corfforol, ond mae fy iechyd meddwl bob amser yn flaenoriaeth hefyd,” dywedodd y claf. “Mae’n mynd gam ymhellach bob tro, ac mae’n berson rhagorol; rwyf wedi clywed llawer o gleifion yn dweud yr un peth!” 

Bydd Dr Gray yn Arwr Iechyd ar gyfer mis Gorffennaf ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae wrth ei fodd gyda’r enwebiad am y wobr. 

Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Park Plaza Caerdydd. 

Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gweithio’n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni. 

Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk 
Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw’r enwebai a’i rôl, yn ogystal â rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi’n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni’n Arwr Iechyd. 

Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i’w ystyried ar gyfer y wobr. 

Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi’r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i’n GIG anhygoel! 

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.