
Roedd pawb yn drist iawn o glywed am farwolaeth y Capten Syr Tom Moore ac yntau’n 100 oed.
Mae dyled y GIG i Capten Tom yn fawr. Diolch iddo am ei gyfraniad gwych a chyfraniad ei gefnogwyr i ‘Elusennau’r GIG Gyda’i Gilydd’ yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae wedi bod yn bosibl i elusennau fel Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro gefnogi staff a chleifion yn ystod pandemig Covid-19.
Derbyniodd yr Elusen Iechyd arian gan Elusennau’r GIG Gyda’i Gilydd, sydd wedi helpu gwasanaethau gofal iechyd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg gyda’r canlynol:
- Prynu tabledi electronig er mwyn i gleifion gadw mewn cysylltiad â’u hanwyliaid pan oedd cyfyngiadau Covid yn atal unrhyw ymweliadau wyneb yn wyneb
- Prosiectau lles i gefnogi pobl yn y gymuned i ymdopi â theimlo’n ynysig
- Uwchraddio llety Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed
- Amrywiaeth o brosiectau Celfyddydau a Cherddoriaeth
- Dodrefn ar gyfer y tu mewn a’r tu allan yn y mannau gorffwys i staff er mwyn iddynt gael seibiant haeddiannol
Heb haelioni anhygoel Capten Tom a’r holl roddwyr eraill, ni fyddai wedi bod yn bosibl darparu’r eitemau ychwanegol hyn, ac mae’r Elusen Iechyd yn andros o ddiolchgar am y rhoddion caredig hyn.
Bydd y GIG yma bob amser i gefnogi pawb – chi, eich teulu a’ch ffrindiau drwy gydol eich oes.
Mae’r flwyddyn ddiwethaf yma wedi dangos nad oes modd rhagweld beth fydd yn digwydd yn y dyfodol, ond mae un peth yn sicr, bydd staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yma i chi bob amser. Ydych chi erioed wedi meddwl sut gallech chi ein helpu ni i wella’r profiad gofal iechyd a chefnogi ein staff yn y dyfodol?
Mae Gadael Rhodd yn eich Ewyllys yn un ffordd ac nid oes angen rhoi unrhyw rodd ariannol nawr, ond gallwch adael gwaddol anhygoel a rhodd i eraill a bydd yn ffordd i gofio amdanoch chi.
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae cefnogi Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, gan gynnwys sut gallwch adael Rhodd yn eich Ewyllys, ewch i’n gwefan www.healthcharity.wales neu ffoniwch ni ar 02921 836040.