Mae Panel Cynigion Loteri’r Staff wedi cytuno i roi arian i B3 yn Ysbyty Athrofaol Cymru i gynnal dathliad i nodi’r diwrnod arbennig hwn.
Wrth wneud cais am gyllid, dywedodd Babs Jones; “Mae ein gweithwyr theatr wedi bod yn rhagorol trwy gydol yr holl bandemig ac wedi bod trwy rai sefyllfaoedd na ellir mo’u dychmygu, ond maent bob amser wedi wynebu’r heriau ar eu hunion ac wedi darparu gofal o’r safon uchaf i gleifion ar y llwybr amdriniaethol.
“Mae’r gefnogaeth maen nhw’n ei rhoi i’w gilydd yn hyfryd i’w weld, trwy fod yn hyblyg a chynnig gweithio mewn meysydd eraill i gefnogi staff yno. Rwy’n falch o weithio gyda phobl mor anhygoel a hoffwn allu dathlu’r rolau yma.”
Gobeithio y cânt ddiwrnod bendigedig!
Pam ddylech CHI gefnogi Loteri’r Staff!
Mae Panel Cynigion Loteri’r Staff yn ymdrechu i gyflawni’r saith nod lles a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ynghyd â defnyddio’r pum dull o weithio; hirdymor, atal, integreiddio, cydweithredu a chynnwys.
Drwy ymuno â Loteri’r Staff, rydych yn cefnogi ystod eang o brosiectau a ariennir gan y Panel Cynigion, sy’n gwella gwasanaethau niferus ar draws y BIP. Drwy’r cyllid hwn, rydych yn helpu’r Panel Cynigion a’r Elusen Iechyd i wella pethau i’n staff a’n cleifion, gan ein helpu ni i gyd i gydweithio i greu Cymru Lewyrchus, Iachach a Chydnerth.
Os hoffech ymuno â Loteri’r Staff a chael cyfle i ennill £1,000 bob wythnos, gellir cwblhau ffurflenni cais yn electronig neu drwy ein gwefan; https://healthcharity.wales/hospital-staff/staff-lottery/. Dychwelwch ffurflenni Loteri’r Staff wedi’u cwblhau at fundraising.cav@wales.nhs.uk.
Os hoffech wneud cais am gyllid gan Banel Cynigion Loteri’r Staff, cysylltwch â’r cyfeiriad e-bost uchod i gael manylion.
Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn eich annog i ymuno â Loteri’r Staff a gwneud cais am gyllid, sy’n gallu gwella eich adran neu wasanaeth a hysbysu eraill am fuddiannau ymuno â Loteri’r Staff. A phwy a ŵyr, efallai mai chi fydd ein henillydd nesaf?