Donate

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch o gyhoeddi bod David Bray, Nyrs, wedi’i goroni’n Arwr Iechyd ar gyfer mis Mai.

Mae David wedi gweithio yn adran Gofal Dwys Cardiaidd Ysbyty Athrofaol Llandochau ers mis Ebrill 2021 ar ôl cymhwyso ym mis Medi 2019. Mae Dave yn aelod hoffus, gwerthfawr o’r tîm, sydd hefyd yn gweithio’n dda ar ei ben ei hun hefyd. Mae’n aelod gweithgar ac uchel ei barch ymhlith y meddygon a’r nyrsys.

Dywedodd Nyrs Arweiniol y Gwasanaethau Cardiothorasig, Ceri Phillips, “Mae gan David sgiliau cyfathrebu gwych gyda’r cleifion ac mae ganddynt lawer o feddwl ohono. Mae David yn ymarferydd diogel ac mae’n dangos y gwerthoedd craidd yn ei ymarfer bob dydd. Mae’n darparu gofal nyrsio o safon uchel bob amser ac yn blaenoriaethu diogelwch cleifion. Mae David yn nyrs garedig a gofalgar iawn, sy’n broffesiynol bob amser. Mae David yn cynnal sesiynau dysgu ad hoc ar yr uned ac yn tynnu o’r profiad y mae wedi’i gael o feysydd eraill fel meddygaeth a chardioleg. Ar hyn o bryd mae’n ymgymryd â’r modiwl CPA ac yn gobeithio sicrhau’r swydd Band 6 nesaf ar CITU. Ei nod yw bod yn ACCP yn y dyfodol.”

Bydd David yn Arwr Iechyd ar gyfer mis Mai ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae wrth ei fodd gyda’r enwebiad am y wobr.

Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Park Plaza Caerdydd.

Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gweithio’n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni. Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw’r enwebai a’i rôl, yn ogystal â rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi’n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni’n Arwr Iechyd.

Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i’w ystyried ar gyfer y wobr.

Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi’r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i’n GIG anhygoel!

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.