Mae pedair gorsaf ail-lenwi arall wedi’u gosod yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd, Canolfan Llandochau ar gyfer Adsefydlu Arbenigol yr Asgwrn Cefn a Niwroadsefydlu a Chanolfan y Fron yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, ac Adain Glan-y-Llyn yn Ysbyty Athrofaol Cymru, wedi’u hariannu gan NHS Charities Together ac Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro. Bydd y gorsafoedd dŵr hyn yn galluogi cleifion, ymwelwyr a staff i lenwi eu poteli dŵr amldro am ddim.
Mae gorsafoedd ail-lenwi dŵr bellach ar gael mewn chwech o leoliadau ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Ysbyty’r Barri ac Ysbyty Dewi Sant oedd y ddau leoliad cyntaf i osod y gorsafoedd ail-lenwi. Mae’r Cynllun Refill yn annog safleoedd sy’n cymryd rhan i gofrestru i’r ap Refill rhad ac am ddim a rhoi sticer yn eu ffenestr sy’n rhoi gwybod i bobl bod croeso iddynt lenwi eu poteli am ddim.
Mae ymchwil yn dangos bod yr oedolyn cyffredin yn prynu mwy na thair potel ddŵr blastig bob wythnos ar gyfartaledd sy’n swm syfrdanol o 175 o boteli bob blwyddyn i bob unigolyn. Caiff tua 7.7 biliwn o boteli plastig eu prynu ar draws y DU bob blwyddyn, sy’n arwain at swm sylweddol o wastraff plastig untro yn cyrraedd ein cefnforoedd yn y pen draw.
Mae’r orsaf ddŵr yn Ysbyty’r Barri, a osodwyd ym mis Mehefin 2020, bellach wedi ail-lenwi dros 11,000 o boteli, er ei bod wedi’i gosod yn ystod y pandemig pan oedd lleihad sylweddol yn nifer y bobl a oedd yn yr ysbyty. Er mai wyth mis yn unig sydd wedi bod ers gosod y ddwy orsaf ddŵr yn Ysbyty Dewi Sant, maent eisoes wedi’u defnyddio i lenwi ymhell dros 15,000 o boteli – anhygoel!
Mae’r Hyrwyddwr Lleol, Sue Dickson-Davies o Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, sydd wedi bod yn arwain y prosiect o osod gorsafoedd dŵr ar draws safleoedd y Bwrdd Iechyd, yn egluro mwy am y prosiect:
“Rydym wedi derbyn adborth gwych gan Ysbyty’r Barri ac Ysbyty Dewi Sant a cheisiadau am beiriannau dŵr tebyg ar draws y Bwrdd Iechyd. Mae gosod y gorsafoedd ail-lenwi hyn mewn ardaloedd allweddol yn rhan o ymrwymiad parhaus i leihau’r defnydd o boteli plastig untro, sef y math o sbwriel sydd i’w weld fwyaf ar ein strydoedd, ein mannau gwyrdd a’n traethau.
“Mae’r gorsafoedd ail-lenwi hyn yn rhoi’r cyfle i bawb i helpu i ddileu’r math hwn o sbwriel, ac arbed arian ar yr un pryd. Mae’r peiriannau hyn hefyd yn sicrhau bod ein staff a’n cleifion yn gallu yfed digon o ddŵr trwy gydol y dydd. Peidiwch ag anghofio dod â’ch potel amldro a’i llenwi!”
I gael rhagor o wybodaeth am waith Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, ewch i www.healthcharity.wales
Ewch i wefan Refill www.refill.org.uk i lawrlwytho’r Ap Refill rhad ac am ddim a chael rhagor o wybodaeth am fudiad Refill.