Mae Coleg Adfer a Lles Caerdydd a’r Fro yn darparu cyrsiau addysgiadol am ddim ar ystod o bynciau iechyd meddwl, iechyd corfforol a lles. Gan y bu’n rhaid darparu mwyafrif y cyrsiau ar-lein yn ystod y pandemig Covid-19, roedd Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi gallu rhoi arian trwy NHS Charities Together i’r coleg gyflogi Arweinydd Cynhwysiant Digidol gyda chylch gwaith penodol i gyd-gynhyrchu hyfforddiant gyda Chymunedau Digidol Cymru ar gyfer 6 o Gymheiriaid Digidol i gefnogi pobl â heriau iechyd meddwl a gafodd eu hallgáu’n ddigidol ar yr adeg hon.
Nododd y coleg fod cyflwyno Arweinydd Cynhwysiant Digidol yn golygu bod systemau a gweithdrefnau llyfnach a mwy effeithlon yn gallu cael eu gweithredu a’u defnyddio o fewn y tîm gweinyddu. Roedd hyn yn lleihau llwyth gwaith, yn gwella lles staff ac yn darparu dull mwy hygyrch o gofrestru i fyfyrwyr.
Ochr yn ochr â hyn, mae hyfforddi a chyflwyno Cymheiriaid Digidol, sydd â’u profiad personol eu hunain o naill ai heriau iechyd meddwl a/neu brofiad o gael eu hallgáu’n ddigidol a/neu sy’n deall gwerth sgiliau digidol a chynhwysiant yn y coleg, wedi profi’n hanfodol wrth barhau i gefnogi poblogaethau a myfyrwyr y Coleg. Cynhyrchwyd yr hyfforddiant hwn ar y cyd i sicrhau bod holl leisiau, dymuniadau ac anghenion myfyrwyr a Chymheiriaid Digidol yn cael eu gwerthfawrogi a’u clywed. Mae Cymheiriaid Digidol wedi dweud bod eu hyder, eu hunan-barch a’u sgiliau cynhwysiant digidol eu hunain wedi cael eu cynyddu a’u gwella drwy’r rhaglen hyfforddi hon ac maent yn awyddus i roi eu gwybodaeth ar waith a chefnogi myfyrwyr a staff gyda’u sgiliau digidol.
Dywedodd un o’r Cymheiriaid Digidol:
“Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i gynnal cyrsiau’r Coleg Adfer ar-lein hyd yn oed wrth i ni addasu i fyw gyda COVID-19; mae’r Coleg Adfer yn gwerthfawrogi cynwysoldeb a hygyrchedd, a ffordd o ymarfer y gwerthoedd hyn yw sicrhau bod unrhyw un sydd eisiau mynychu cwrs yn gallu gwneud hynny a bod parhau â’r ddarpariaeth ar-lein yn ffordd o hwyluso hyn. Er bod dysgu o bell yn aml yn fwy hygyrch nag wyneb yn wyneb, gwyddom nad yw argaeledd ar-lein yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb yn awtomatig; nod y cymheiriaid digidol yw chwalu rhwystrau allgau digidol, gan sicrhau bod cymheiriaid digidol yn cynrychioli gwerthoedd y Coleg ac yn rhan annatod o’r gwaith i hwyluso cyrsiau.”
Diolch i NHS Charities Together am gefnogi Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro i ddarparu’r arian i gefnogi Coleg Adfer a Lles Caerdydd a’r Fro, gan ganiatáu i’r staff barhau i ddarparu eu gwasanaethau anhygoel mewn ffordd fwy effeithlon ac i gynulleidfa ehangach.