Rhoi

Cynhelir cwis tafarn ar y thema Calan Gaeaf ddydd Sul 31 Hydref am 8.30pm yn Nhafarn Tŷ Nant, i godi arian ar gyfer Uned Gofal Critigol Ysbyty Athrofaol Cymru er mwyn cydnabod y gofal a gafodd Geoff Bodman yn ystod y pandemig.

Pan aeth Geoff Bodman, a oedd yn ffit ac yn iach ar y pryd, allan gyda’i wraig Julie i Twickenham i wylio Cymru yn chwarae yn erbyn Lloegr ac yna ar daith i rasys Cheltenham gyda’i ffrindiau, ni chroesodd ei feddwl y byddai’n ymladd am ei fywyd ddyddiau yn unig yn ddiweddarach ar ôl dal COVID.  Tri mis yn ddiweddarach, cafodd Geoff weld ei deulu unwaith eto o’r diwedd.  Mae Geoff wedi siarad am yr emosiynau aruthrol a deimlodd yn cyrraedd adref ar ôl brwydr 11 wythnos yn yr ysbyty yn erbyn y coronafeirws.

Dywedodd Geoff, “Doeddwn i ddim yn ymwybodol o ba mor sâl oeddwn i mewn gwirionedd. Dywedwyd wrth fy ngwraig a fy nheulu i baratoi am y gwaethaf a galwyd ar offeiriad hyd yn oed i weinyddu’r eneiniad olaf.  Ond doedd Duw ddim yn barod am Bodman arall (fe gollais i fy nhad y flwyddyn flaenorol) a dechreuais y frwydr fwyaf yn ôl ers Lazarus”.

“Pan des i oddi ar y peiriant anadlu, rhoddodd y meddyg wybod i mi fy mod i wedi cael strôc.  Doeddwn i ddim yn gallu symud i ddechrau, ac roeddwn i’n teimlo pob math o ofnau ac emosiynau.  Roeddwn i hefyd wedi colli’r gallu i ddarllen ac ysgrifennu a oedd yn brofiad trawmatig”.

“Mae rhai meddygon a nyrsys neilltuol o arbennig, a neb yn fwy na Sarah Fergusson ar A7.  Roedd ei ffordd gyfeillgar a’i hagwedd hwyliog, ochr yn ochr â sicrwydd ei sgiliau nyrsio, yn donig i ni fel cleifion, ac roedd hi bob amser yn barod i fynd yr ail filltir.  Roedd Sarah yn cydnabod pa mor gaeth oeddwn i’n teimlo.  Byddwn i’n aml yn siarad â hi am fy ngwraig a fy nheulu a faint oeddwn i’n gweld eu heisiau.  Fe drefnodd Sarah fy mod i’n cael cyfle i fod allan yn yr awyr iach am y tro cyntaf ers oes.  Fe aethon ni draw at bwll dŵr yr ysbyty, a gwelais fy ngwraig am y tro cyntaf ers i fi gael fy nerbyn i’r ysbyty.  Roedd yn foment hynod emosiynol a hardd i ni i gyd.  Byddaf yn fythol ddiolchgar i Nyrs Sarah Fergusson.  Yr hyn rydw i’n ei gofio fwyaf am fy amser yn yr ysbyty yw’r gofal proffesiynol a gefais gan bawb.  Hoffwn ddangos fy nghariad, fy edmygedd a fy ngwerthfawrogiad i bawb a ofalodd amdana i.  Yr holl dîm ar yr adran Gofal Critigol a roddodd gynnig ar bopeth i achub fy mywyd.  Yr holl feddygon a nyrsys a ddaliodd ati.  Marie a Lexi, y ffisiotherapyddion a ddaeth i ochr fy ngwely bob dydd, yn rhoi bywyd yn ôl i fy mreichiau a fy nghoesau.  Louise, y seicolegydd, a siaradodd yn bwyllog gyda fi a hyd yn oed ffonio fy ngwraig a oedd angen ei phresenoldeb tawel gymaint â fi.  Y therapydd galwedigaethol a aeth â fi i gael fy nghawod gyntaf ers 10 wythnos.  Roedd y pleser syml hwnnw’n golygu’r byd i fi.  Hyd yn oed y gweithwyr domestig a oedd yn sgwrsio’n brysur wrth lanhau’r ward, roedd pawb yn chwarae eu rhan”.


Dywedodd Sarah “Mae nyrsio trwy gydol y pandemig wedi bod mor anodd.  Ond roedd mynd â Geoff i’r pwll dŵr i weld ei wraig am y tro cyntaf yn foment mor emosiynol.  Ac yn un fydda i byth yn ei hanghofio – braint llwyr.  Roedd yn un o’r adegau hynny lle roeddwn i’n teimlo ‘ie.  Dyma pam ‘dwi’n gwneud y swydd hon’.

“Yn ystod yr amseroedd hyn, gwnaethom ddatblygu perthynas mor agos gyda’n cleifion.  Ni oedd yr unig gyswllt a oedd ganddynt.  I eistedd trwy ddagrau, ofnau a gobeithion.  Anrhydedd oedd gallu bod yno.  Pan nad oedd neb arall yn gallu”.

“Doedd nyrsio trwy COVID ddim yn ddrwg i gyd.  Roedd momentau fel gyda Geoff.  Roedd i’n gweithio yn Heulwen y diwrnod y dechreuodd y cyfan.  Roedd Geoff yn un o’r cleifion y gwnaethom weld wedi’i fewndiwbio am y tro cyntaf ar y ward.  Doedd e ddim yn rhywbeth roeddem ni wedi arfer gweld.  Brawychus i ni bryd hynny.  Yn anffodus, yr hyn doedden ni ddim yn gwybod oedd mai dyma fyddai’r norm dros yr ychydig fisoedd nesaf”.

“Doedd pob stori ddim yn drist.  Roedd stori Geoff yn helyntus.  Ond roedd yn stori hapus.  Rydw i’n falch o weithio i’r GIG ac yn teimlo’n ddiolchgar fy mod i wedi gallu bod yno.  A rhannu momentau fel hyn gyda’r cleifion.  Mae Geoff yn rhyfelwr.  Ni roddodd y gorau iddi.  Dylid rhannu ei stori yn eang.  Mae gobaith yno o hyd.  Peidiwch â byth rhoi’r gorau i drio”.

Bydd y cwis yn dechrau am 8.30pm gyda’r holl arian yn mynd i’r Uned Gofal Critigol.  Mae Geoff yn annog pawb i wisgo fyny ar gyfer y digwyddiad.

Os hoffech chi gyfrannu a chefnogi’r adran Gofal Critigol,

ewch i: www.healthcharity.wales/donate

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.