Mae grŵp cymunedol lleol ‘Scrub a Dub Dub Penarth’ Scrub a Dub Dub Penarth | Facebook yn garedig iawn wedi cynnig y cyfle i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro arddangos eu cwilt coffa hardd, a wnaed yn ystod cyfnod clo COVID-19, yn Ysbyty’r Barri.
Cysylltodd un o’r tîm, Lisa Eveleigh, ag Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro drwy Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, ac roeddem yn falch iawn o dderbyn y cynnig i arddangos eu gwaith caled o fewn y gymuned.
Dywedodd Lisa “Ar ddechrau’r pandemig COVID ym mis Mawrth 2020, daeth cymuned o fenywod (a rhai dynion!) ynghyd o Benarth a’r Barri i wnïo sgrybs ar gyfer gweithwyr rheng flaen. Codwyd £5000 i brynu deunyddiau mewn ychydig wythnosau yn unig ac yn fuan roedd 48 o fenywod a dynion yn gwnïo… Chwe mis yn ddiweddarach roedd bron i 900 set o sgrybs a nifer hyd yn oed yn fwy o fandiau gwallt a bagiau golchi ar gyfer gweithwyr rheng flaen wedi’u creu gan dîm anhygoel ‘Scrub-a-Dub’.
“Mae’r cwilt, a wnaed ac a roddwyd ynghyd gan y grŵp gwych hwn o bobl, yn coffáu ymdrech gymunedol anhygoel pawb a gymerodd ran yn ystod y cyfnod digynsail hwn, a newidiodd y byd.
“Diolch i chi i gyd, weithwyr rheng flaen”.
Bydd y cwilt yn cael ei arddangos yn Ysbyty’r Barri o ddiwedd mis Medi.