
Mae teulu claf a gafodd driniaeth yn Adran Haematoleg Ysbyty Athrofaol Cymru wedi codi dros £3,828.75 i’r adran drwy Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.
Cafodd Gaynor Wilkins, cyn athrawes ysgol gynradd a oedd yn cael ei galw’n Beti gan staff yr Adran Haematoleg, ddiagnosis o syndrom Myelodysplastic (MDS), ym mis Ionawr 2018. Math o ganser y gwaed prin yw hwn nad oedd modd ei wella.
Daeth Adran Haemotoleg Ysbyty Athrofaol Cymru yn ail gartref i Gaynor. Yn sicr fe gyfrannodd y gofal manwl a’r gefnogaeth gyfeillgar a gafodd at ei hansawdd bywyd rhyfeddol wrth iddi fyw gyda canser y gwaed am dros ddwy flynedd a hanner.
Roedd Gaynor bob amser yn gwenu. Hyd yn oed ar ôl ergyd ei diagnosis, fe ddaliodd ati i wenu wrth iddi ddygymod â byw gyda’i salwch ffyrnig. Roedd ei hagwedd gadarnhaol at fywyd wir yn ganmoliaethus. Ar Awst 31 2020, bu farw Gaynor yn sydyn yn 74 mlwydd oed, fis ar ôl i Gaynor a’i gŵr ddathlu eu priodas aur ar 25 Gorffennaf 2020.
Dywedodd Rhiannon, merch Gaynor “Hoffem godi rhoddion er cof am Fam a gwraig hardd, er mwyn helpu pobl eraill sy’n wynebu profiadau tebyg. Bydd hyn yn ffordd i ni gydnabod y driniaeth a’r gofal rhagorol a gafodd gan yr holl staff yn ystod ei salwch.”
Rydyn ni yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn gwerthfawrogi’r weithred hon o garedigrwydd. Ar ran holl dimau y GIG yma yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, rydyn ni’n diolch i Rhiannon a gweddill ei theulu o waelod calon am eu caredigrwydd a’u haelioni ysbrydoledig unwaith eto.
Gallwch eu helpu i godi hyd yn oed mwy drwy gyfrannu at dudalen Rhiannon; https://www.justgiving.com/fundraising/rhiannon-wilkins
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth ar sut gallwch chi helpu, ewch i wefan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro; https://healthcharity.wales/, cysylltwch â ni drwy neges e-bost; Fundraising.cav@wales.nhs.uk neu gallwch gyfrannu drwy ein gwefan; https://healthcharity.wales/donate/