Yn ystod Pandemig COVID-19, gofynnodd yr Adran Gofal Lliniarol am chwe gwely Z y gellir eu plygu gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, gyda chyllid gan NHS Charities Together.
Yn flaenorol, byddai teuluoedd, os oeddent yn gallu, yn aml yn cysgu mewn cadair wrth ochr gwely eu perthynas. Mae’r gwelyau Z yn caniatáu i aelodau’r teulu orffwys yn fwy cyfforddus ar adeg a all fod yn flinedig yn gorfforol ac yn emosiynol.
Dosbarthwyd y gwelyau newydd rhwng Ysbyty Athrofaol Cymru, Ysbyty Athrofaol Llandochau ac Ysbyty Dewi Sant. Bydd y gwelyau Z a ddarperir yn cael effaith hirhoedlog ar yr Adran Gofal Lliniarol ac mae’r staff wedi sôn am yr effaith gadarnhaol y mae’r gwelyau wedi’i chael ar brofiad gofal diwedd oes yn yr ysbyty.
Os hoffech wneud cyfraniad i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro neu gomisiynu gwaith celf ar gyfer un o’n safleoedd ysbyty er cof am rywun annwyl, ewch i: https://healthcharity.wales/how-you-can-help/gift-in-memory-celebration/