Rhoi

Mae’n bleser gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro gyhoeddi bod Christy Villaruz, Uwch Nyrs Staff, wedi’i choroni’n Arwr Iechyd ar gyfer mis Mai.

Mae Christy yn Uwch Nyrs Staff o fewn Gofal Critigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, ac yn ogystal â’i chyfrifoldebau clinigol, mae Christy yn aelod dylanwadol ac allweddol o’r tîm Atal a Rheoli Heintiau Gofal Critigol (IPC).

Dywedodd Arweinydd Nyrsio Ansawdd a Diogelwch Gofal Critigol, Hayley Valentine, “Mae Christy yn grymuso holl staff yr uned gyda gwybodaeth a chyngor ar faterion IPC. Mae hi wedi cynnal archwiliadau, sesiynau addysgu ac wedi gweithredu newid yn yr uned gan wneud y cyfan yn hamddenol a gyda gwên ar ei hwyneb. Mae hi’n angerddol ac yn ysbrydoliaeth i bawb.”

Mae Christy yn un o’r prif gyfranwyr yn nhîm yr IPC, yn enwedig o ran yr ymgyrch hylendid dwylo, a gwnaeth hi hyd yn oed ddylunio posteri ar gyfer Diwrnod Hylendid Dwylo’r Byd. Ar gyfer yr ymgyrch, cafodd Christy gefnogaeth aelodau o staff, a chyflwynodd wersi gan ddefnyddio’r golau UV a amlygodd fannau cyffredin sy’n cael eu methu wrth olchi dwylo.

Dywedodd yr Arweinydd Tîm ac Arweinydd yr IPC, Jayne Kent, “Mae hyrwyddo IPC mewn ardal mor fawr â’r adran Gofal Critigol yn anodd. Mae cael Christy yn y tîm a gwybod y gallaf adael rhan mor fawr o addysg yn nwylo galluog Christy yn amhrisiadwy i mi. Mae hi’n ysbrydoliaeth ac yn fodel rôl i aelodau iau’r tîm.”

Bydd Christy yn Arwr Iechyd ar gyfer mis Mai a bydd yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae hi wrth ei bodd gyda’r enwebiad am y wobr.

Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Park Plaza Caerdydd.

Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gweithio’n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni. Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw’r enwebai a’i rôl, yn ogystal â rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi’n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni’n Arwr Iechyd.

Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i’w ystyried ar gyfer y wobr.

Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi’r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i’n GIG anhygoel!

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.