

Roedd yn bleser gennym gefnogi Gŵyl Gelfyddydau’r Haf ym Mhafiliwn Grange a oedd yn dathlu Creadigrwydd Pobl Ifanc.
Bu’r digwyddiad, mewn cydweithrediad â’r Fforwm Ieuenctid ym Mhafiliwn Grange yn llwyddiant ysgubol, a daeth 110 o bobl yn llu ar nos Wener hyfryd.
Roedd y digwyddiad yn ddathliad o’n prosiect – ‘Celfyddydau’r Ifanc dros Newid’, a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring fel rhan o’r fenter Celfyddyd a Chrebwyll.
Buom yn gweithio gyda’r Fforwm Ieuenctid ym Mhafiliwn Grange ynghyd â’r artistiaid Louise Jensen, Sian Burns, Katja Stiller, Nicola Parsons, a Joe Kelley o Clear the Fog, i greu gŵyl gelfyddydau a oedd yn cynnwys cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau dylunio crysau T ac argraffu, gwneud masgiau a collage, Drymio Affricanaidd, gweithdy animeiddio a gwylio ffilm wych a grëwyd gan y Fforwm Ieuenctid a ddangoswyd am y tro cyntaf yn y digwyddiad.
Diolch yn fawr i bawb a gymerodd ran!