Gwnaeth Panel Cynigion Loteri’r Staff gefnogi prosiect yn ddiweddar i ddatblygu a hyrwyddo cyfres o sesiynau celfyddydol creadigol i wardiau’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Pobl Hŷn (MHSOP) yn Ysbyty Athrofaol Llandochau ac Ysbyty’r Barri.
O fewn gofal dementia, mae’n hysbys bod agweddau ar rythm a phatrymau’n cael eu cynnal pan fydd sgiliau prosesu a gweithredol eraill yn aml yn cael eu colli. Mae cynnal y gallu hwn i ymgysylltu yn bwysig ac yn dod â llawenydd i gleifion ond hefyd i deuluoedd a allai fod wedi gweld newidiadau sylweddol mewn gallu. Gall ganiatáu math o gyfathrebu na welir yn aml o ddydd i ddydd.
Mae arian Loteri’r Staff yn cefnogi’r broses o gyflwyno tair ffurf gelfyddydol wahanol ar y wardiau. Mae’r un gyntaf yn weithdy celfyddydau gweledol wythnosol, a gyflwynir gan yr artist lleol Katie Keeble. Mae hyn yn cynnig cyfle i gleifion archwilio amrywiaeth o gyfryngau fel peintio, cerflunio a collage, hyrwyddo symudiad a defnyddio llwybrau synhwyraidd i ymgysylltu â chleifion dementia sydd ar gam mwy datblygedig yn eu salwch.
Bydd yr ail ffurf ar gelfyddyd yn archwilio symud trwy weithdai a gyflwynir gan Rubicon Dance, a fydd yn darparu sesiynau symud a dawns rhyngweithiol i’r cleifion. Bydd hwn yn gyfle i gyfranogwyr gynyddu symudedd a mynegi eu hunain trwy ddawns.
Mae’r cynnig hefyd yn cefnogi’r broses o gyflwyno cerddoriaeth fyw trwy raglen wythnosol o gyngherddau gan ddau gerddor o Harmoni Cymru, a fydd yn galluogi cleifion i gymryd rhan mewn cerddoriaeth, canu, rhyngweithio a rhythm. Mae rhythm yn elfen y mae cleifion â dementia yn aml yn ei chadw, ac yn ei chael yn haws ei defnyddio hyd yn oed ar gam datblygedig o’u salwch, ac yn aml mae’n caniatáu iddynt gyfathrebu a hel atgofion.
Gwnaeth Tim Nicholls, y Clinigydd Nyrsio Arbenigol ar gyfer Dementia, gasglu adborth gan gleifion ynglŷn â chyngerdd, sy’n dweud llawer am yr effaith gadarnhaol y bydd y sesiynau’n ei chael yn ystod y flwyddyn. Mae’r sylwadau’n cynnwys:
“Da iawn, iawn, iawn, cynnes iawn, rhagorol, ac roeddwn i’n gallu cymryd rhan.”
“Roeddwn i’n hoffi popeth, steil da iawn, anhygoel, aeth â fi flynyddoedd yn ôl i atgofion da a drwg.”
“Braf cofio’r hen amser.”
Mae’r sesiynau bellach yn cael eu cynnal ar draws wardiau MHSOP, ac yn cael eu gwerthfawrogi gan y cyfranogwyr, sy’n cyfrannu’n frwd at y llu o ffurfiau celfyddydol. Mae’n bleser gan Banel Cynigion Loteri’r Staff gefnogi’r prosiect i ddod â chreadigrwydd a chyffro i’r wardiau.