Yn ddiweddar, cymeradwyodd Panel Cynigion Loteri’r Staff gais i lonni’r gwagle yn Ynys Saff yn y Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd gyda’r nod o greu amgylchedd diogel, llawn cysur i’r rhai sy’n dod i ddefnyddio’r Gwasanaeth Ymosodiadau Rhywiol.
Mae Ynys Saff yn darparu gwasanaeth i unigolion sydd wedi’u heffeithio gan ymosodiad rhywiol. Yn dilyn datblygiadau SARC rhanbarthol, mae Ynys Saff eisoes yn Hyb Pediatrig ar gyfer cleientiaid o dan 14 oed, a chyn bo hir bydd yn ganolfan ar gyfer De-ddwyrain Cymru i bobl dros 14 oed sydd wedi dioddef ymosodiad rhywiol acíwt.
Mae’r gwasanaeth pwysig hwn yn darparu mynediad at archwiliad meddygol fforensig, yn ogystal â chyfweliadau Heddlu y tu allan i amgylchedd gorsaf Heddlu. Mae’r Eiriolwyr Trais Rhywiol Annibynnol (ISVA) yn cefnogi cleientiaid sy’n symud drwy’r broses cyfiawnder troseddol, ac mae cwnsela hefyd ar gael i helpu cleientiaid i symud ymlaen o’u trawma yn y ffyrdd gorau posibl.
Dywedodd Dr Catrin Simpson, Arweinydd Clinigol yn Ynys Saff: “Bydd ein prosiect yn gwneud gwahaniaeth i bawb sydd wedi dioddef ymosodiad rhywiol, yn enwedig y rhai sydd angen archwiliad meddygol fforensig acíwt. Rydym yn wasanaeth i bawb, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, rhywioldeb neu ethnigrwydd.”
“Bydd man tawel mwy apelgar hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar les staff sy’n gweithio’n ddyddiol gyda chleientiaid sydd wedi profi trawma.”
Yn dilyn gwaith adeiladu yn yr adran i fodloni’r safonau fforensig sy’n ofynnol i gyflawni archwiliadau meddygol, roedd yr adran yn edrych yn glinigol ac anneniadol iawn. Drwy osod y darluniau o olygfeydd natur mewn mannau aros allweddol, mae’r adran bellach wedi’i thrawsnewid yn ofod diogel a deniadol i unigolion sy’n aros am eu hapwyntiadau a’u harchwiliadau.
Roedd Panel Cynigion Loteri’r Staff wrth eu bodd yn ariannu’r prosiect, oherwydd ei fod yn cefnogi’r gwaith pwysig sy’n cael ei wneud gan SARC sy’n cynorthwyo ac yn gofalu am unigolion eithriadol o agored i niwed sy’n dod i ddefnyddio’r gwasanaeth. Mae’r Panel Cynigion yn gobeithio y bydd y gwaith celf yn dod â chysur a llonyddwch i’r rhai sydd ei angen fwyaf.
Pam ddylech CHI ymuno â Loteri’r Staff!
Mae Panel Cynigion Loteri’r Staff yn ymdrechu i gyflawni’r saith nod lles a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ynghyd â defnyddio’r pum dull o weithio; hirdymor, atal, integreiddio, cydweithredu a chynnwys.
Drwy ymuno â Loteri’r Staff, rydych yn cefnogi ystod eang o brosiectau a ariennir gan y Panel Cynigion, sy’n gwella gwasanaethau niferus ar draws y BIP. Drwy’r cyllid hwn, rydych yn helpu’r Panel Cynigion a’r Elusen Iechyd i wella pethau i’n staff a’n cleifion, gan ein helpu ni i gyd i gydweithio i greu Cymru Lewyrchus, Iachach a Chydnerth.
Os hoffech ymuno â Loteri’r Staff a chael cyfle i ennill £1,000 bob wythnos, gellir cwblhau ffurflenni cais yn electronig neu drwy ein gwefan; https://healthcharity.wales/hospital-staff/staff-lottery/. Dychwelwch ffurflenni Loteri’r Staff wedi’u cwblhau at fundraising.cav@wales.nhs.uk.
Os hoffech wneud cais am gyllid gan Banel Cynigion Loteri’r Staff, cysylltwch â’r cyfeiriad e-bost uchod i gael manylion. Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn eich annog i ymuno â Loteri’r Staff a gwneud cais am gyllid, sy’n gallu gwella eich adran neu wasanaeth a hysbysu eraill am fuddiannau ymuno â Loteri’r Staff. A phwy a ŵyr, efallai mai chi fydd ein henillydd nesaf?