Rhoi

Mae’r COVID-19 Fundraising Report 2020 and in Cymraeg yn rhoi manylion rhai o’r gweithgareddau a’r gefnogaeth codi arian a ddangoswyd at Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ers dechrau Pandemig COVID_19 ym mis Mawrth 2020. Roedd caredigrwydd ac ymroddiad di-ben-draw pobl i godi arian a chefnogi Ymgyrch ‘Lledaenu’r Cariad’ Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn ysbrydoledig. Mae’r Elusen Iechyd wedi cael cyfraniadau gan fusnesau, sefydliadau ac aelodau’r cyhoedd hael, i gefnogi staff, cleifion a gwirfoddolwyr y GIG yr effeithiwyd arnynt gan COVID-19.

Oherwydd maint y gefnogaeth a gafwyd, dim ond ciplun yw’r adroddiad hwn o’r ffyrdd amrywiol mae’r Elusen Iechyd nid yn unig wedi cael cyfraniadau, ond hefyd rhoddion, bwyd a nwyddau ymolchi. Mae’r adroddiad hwn yn caniatáu i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ddweud diolch o galon wrth y rhoddwyr hael a’r bobl arbennig sydd wedi codi arian ac sydd wedi gwneud cymaint i gefnogi cleifion a staff yn ystod y cyfnod digynsail hwn.

Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu cyfraniadau eraill a ddaeth i law ers mis Mawrth 2020, gan gynnwys rhai gan Gareth Bale, Aaron Ramsey a Sir Stanley Thomas. Roedd y cyfraniadau hyn yn hynod o hael, a hefyd yn tynnu sylw at Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a hyrwyddo’r gwaith a oedd yn cael ei wneud i gefnogi cleifion a chydweithwyr.

Fel Elusen Iechyd y GIG, mae’r Elusen Iechyd hefyd wedi elwa o arian a gafodd ei godi’n genedlaethol drwy’r ymgyrch NHS Charities Together, a ddaeth i sylw newyddion cenedlaethol yn sgil yr arian a gododd Sir Captain Tom Moore a phobl eraill. Mae’r elusen Iechyd wedi amlygu rhai o’r ffyrdd y maen nhw wedi dechrau clustnodi a gwario’r rhoddion hyn ar draws y Bwrdd Iechyd, er budd cleifion, staff a chymunedau. Bydd y broses hon yn parhau dros y misoedd nesaf. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefan www.healthcharity.wales

Mae’r Elusen Iechyd yn hynod o ddiolchgar am yr holl gefnogaeth a ddangoswyd at yr Elusen, ac mae wedi bod yn braf gweld ymdrechion pobl i helpu.

Bydd yr elusen Iechyd yn parhau i wneud cymaint ag y gallen nhw i godi arian er budd pawb ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Diolch yn fawr.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.