Gwahoddir cefnogwyr pêl-droed i ddigwyddiad arbennig iawn yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Gwener, 9 Mai.
Yn dechrau am 6.30pm, bydd un ar ddeg o chwaraewyr dethol Dinas Caerdydd, o dan y capten Joe Ledley, yn wynebu un ar ddeg o chwaraewyr gwych rhyngwladol eraill, dan arweiniad hen ffefryn arall o’r Adar Gleision, David Marshall.
Bydd y gêm, sy’n cael ei chwarae er cof am Claire Nokes, yn codi arian ar gyfer Apêl Prop – cronfa a reolir gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro i gefnogi unigolion sy’n cael cymorth adsefydlu yn dilyn anaf i’r ymennydd a’u teuluoedd.
Gwnaeth Claire, merch Cyfarwyddwr Meddygol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, Len Nokes, gwympo yng nghartref ei ffrind ym mis Rhagfyr 2016 ar ôl dioddef ataliad ar y galon, y cadarnhawyd yn ddiweddarach ei fod wedi’i achosi gan gyflwr o’r enw myocarditis. Roedd hi wedi dioddef anaf hypocsig i’r ymennydd a byddai mewn cyflwr diymateb am wyth mis nesaf (ac olaf) ei bywyd, gan farw ar 3 Hydref, 2017, yn ddim ond 26 oed.
Gwnaeth Apêl Prop yn Ysbyty Rookwood ddarparu cefnogaeth amhrisiadwy i’r teulu Nokes yn ystod yr amseroedd anoddaf. Ym mis Mai eleni, bydd wynebau enwog yn dod at ei gilydd i roi ychydig yn ôl.

Yn ymuno â Joe Ledley ar gae Dinas Caerdydd fydd Sean Morrison, Gavin Rae, Kevin McNaughton, Scott Young, Lee Tomlin, Lee Peltier, Craig Conway, Robert Earnshaw, Jay Bothroyd, Michael Chopra, Fraizer Campbell, Darren Purse, Ben Turner, Lee Camp, Chris Burke, Andy Legg, Damon Searle, Jason Fowler, Anthony Pilkington a llawer mwy.
Ar gyfer y gwrthwynebwyr, dan arweiniad cyn-gapten yr Adar Gleision a’r Alban, David Marshall, bydd sawl wyneb cyfarwydd yn ymddangos, gan gynnwys cyn-chwaraewyr Dinas Abertawe Lee Trundle, Leon Britton ac Angel Rangel! Bydd nifer o enwogion eraill o’r byd chwaraeon ac adloniant yn cymryd rhan hefyd.
Bydd cynrychiolwyr o Glwb Pêl-droed Menywod Dinas Caerdydd a Menywod Dinas Abertawe hefyd yn chwarae, gan gynnwys Ffion Price, Lisa Owen, Lily Billingham, Fiona Barry a Shannon Evans o Glwb Dinas Caerdydd; a Nia Jones, Katy Hosford, Rachel Cullen, Ellie Lake a Chloe Chivers o’r Elyrch.
Mae tocynnau Grandstand Lefel 3 (Ricoh Suite) ar gyfer y gêm arbennig hon, lle bydd cefnogwyr yn cael cyfle i rannu eiliad gyda’r chwaraewyr ar ôl y gêm, ar werth nawr ac yn cael eu prisio fel a ganlyn:
· Oedolion @£10
· Plant dan 16 @£1
· Tocyn teulu (2 x oedolyn a 2 x dan 16) @£17.50 · Tocynnau Grŵp: e-bostsales@cardiffcityfc.co.uk Mae tocynnau ar werth nawr ac ar gael yma.
Dim ffioedd archebu. Rhaid prynu tocynnau plant gan oedolyn sy’n talu’n llawn, a dylai fod uchafswm o 3 blentyn i 1 oedolyn mewn unrhyw un trafodiad. Prynwch ar-lein a llwytho’ch tocyn i waled eich ffôn.