Mae Canolfan Siopa Dewi Sant, Caerdydd yn cefnogi Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro y Nadolig hwn drwy ofyn i siopwyr roi cyfraniad i’w helusen y GIG leol.
Ar draws Canolfan Siopa Dewi Sant, mae codau QR yn cael eu harddangos mewn mannau ciwio, yn y lifftiau ac ar y grisiau i’r meysydd parcio yn gwahodd siopwyr i sganio’u cefnogaeth i’w helusen y GIG leol.
Mae’n gyflym ac yn hawdd gwneud cyfraniad wrth i chi wneud eich siopa Nadolig – wrth gadw pellter cymdeithasol wrth gwrs! Defnyddiwch yr ap camera ar eich ffôn, sganiwch y cod QR a dilynwch y ddolen i wneud cyfraniad. Mae pob cyfraniad yn helpu i wneud pethau’n well i gleifion a staff y GIG ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Dywedodd Ross Tyson, Rheolwr Marchnata Canolfan Siopa Dewi Sant: ” Mae holl staff Dewi Sant yn ddiolchgar o’r gwaith anhygoel mae’r GIG yn ei wneud yng Nghymru, ac rydyn ni’n siarad ar ran y wlad gyfan wrth ddweud, “Diolch yn fawr.” Yn ystod y tymor ewyllys da hwn, rydyn ni’n gobeithio y bydd ein mannau rhoi yn helpu i godi arian a gwneud gwahaniaeth yn Ne Cymru”
Dywedodd Simone Joslyn, Pennaeth Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro: “Hoffwn ddiolch i Ganolfan Siopa Dewi Sant am ddewis cefnogi staff a chleifion ein GIG yn ystod yr ŵyl. Wrth roi cyfraniad i’r Elusen Iechyd rydych chi’n helpu gwneud pethau’n well ar gyfer ein cleifion a’n staff, y tu hwnt i’r hyn mae cyllid arferol y GIG yn ei ddarparu.”
I roi cyfraniad er mwyn cefnogi Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro y Nadolig hwn, ewch i www.healthcharity.wales/donate