Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch iawn o gyhoeddi cydweithrediad rhwng ein Hapêl Canolfan y Fron a CancerPal, sefydliad sy’n darparu Blychau Gofal a chynnyrch i helpu i leddfu sgil-effeithiau triniaeth canser.
Treuliodd Jo Riley, sylfaenydd CancerPal, flynyddoedd lawer yn gofalu am ei mam a gafodd ddiagnosis o ganser y fron eilaidd yn 2015. Cyflawnodd Jo gannoedd o oriau o waith ymchwil i wahanol gynhyrchion a allai helpu i leddfu’r symptomau a brofodd ei mam o ganlyniad i driniaeth canser. Dywedodd Jo “Pan gafodd Mam ddiagnosis o ganser y fron eilaidd roeddwn i’n teimlo mor ddiymadferth, felly dechreuais ymchwilio i ffyrdd y gallwn helpu i’w chefnogi ac fe sylweddolais yn fuan fod llawer o gynhyrchion ar gael a all helpu i leddfu’r holl sgil-effeithiau erchyll, ond doeddwn i ddim yn gwybod amdanyn nhw ac nid oedd Mam chwaith. Dyna wnaeth arwain at y syniad ar gyfer CancerPal – rydym yn gobeithio rhannu gwybodaeth a phrofiad pobl eraill sydd wedi cael yr un profiad.”
Yn 2019, ffurfiodd Jo CancerPal fel y gellid rhannu ei blynyddoedd o brofiad a gwybodaeth fanwl am gynnyrch gydag eraill a oedd yn yr un sefyllfa.
Mae Jo wedi bod yn gweithio gyda Sue Dickson-Davies, Uwch Swyddog Codi Arian ar gyfer Apêl Canolfan y Fron, i gynhyrchu blychau Gofal Canser y Fron yn benodol ar gyfer ein Hapêl Canolfan y Fron, a dywedodd “Mae CancerPal yn falch iawn o gefnogi Apêl Canolfan y Fron drwy werthu ein blychau partneriaeth a grëwyd yn arbennig. Rydym yn gwybod os yw rhywun annwyl yn profi triniaeth canser y fron, nad yw ffrindiau a theulu yn aml yn gwybod sut i helpu. Rydym yn gobeithio, drwy gynnig y Blychau Gofal ymarferol hyn, y bydd ffrindiau a theulu yn gallu dangos eu cefnogaeth i anwyliaid sy’n profi triniaeth canser, ac oherwydd ein bod yn rhoi rhodd i Apêl Canolfan y Fron am bob blwch a werthir, gallwn helpu i gefnogi cleifion eraill sy’n dioddef o ganser y fron hefyd.”
Fel rhan o’r cydweithio hwn, bydd CancerPal yn rhoi rhodd i Apêl Canolfan y Fron ar ôl gwerthu unrhyw un o’r tri blwch a ddewiswyd yn arbennig:
· Blwch Gofal Triniaeth Canser y Fron – £30 gyda rhodd o £5 i Apêl Canolfan y Fron
· Blwch Gofal Triniaeth Canser y Fron i Ddynion – £40 gyda rhodd o £7 i Apêl Canolfan y Fron
· Blwch Gofal Triniaeth Canser y Fron – £50 gyda rhodd o £10 i Apêl Canolfan y Fron
Mae pob un o’r blychau hyn yn cynnwys cynhyrchion a ddewiswyd yn arbennig sy’n anelu at wneud cyfnod y driniaeth a’r gwellhad yn fwy cyfforddus i’r derbynnydd, a gellir prynu’r blychau pwrpasol hyn yn uniongyrchol gan CancerPal drwy ddilyn y ddolen hon: https://www.cancerpal.co.uk/cardiffvalebreastcentreappeal
Pan fyddwch chi’n teimlo’n ddiymadferth yn gwylio rhywun rydych chi’n ei garu yn profi triniaeth canser, mae’r blychau gofal hyn yn ffordd berffaith, feddylgar ac ymarferol o ddangos eich cariad a’ch cefnogaeth.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu gymorth, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy fundraising.cav@wales.nhs.uk neu cysylltwch â Jo yn CancerPal ar hello@cancerpal.co.uk