
Mae Tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn falch iawn o dderbyn cyllid a chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring i ddechrau Blwyddyn 3 ein prosiect Celf a’r Meddwl, Cysylltiadau Creadigol Pobl Ifanc.
Mae’r cymorth parhaus hwn yn galluogi artistiaid a sefydliadau i gyd-greu ymyriadau celfyddydol ystyrlon, cynhwysol ac arloesol ochr yn ochr â phobl ifanc yn ein cymunedau a phobl ifanc agored i niwed yn ein gwasanaethau.
Mae’r rôl mae ein hartistiaid yn ei chwarae yn gwbl hanfodol i lwyddiant y prosiect, ac roeddem wrth ein bodd bod dros 87 o weithdai celf wedi’u cyflwyno ym Mlwyddyn 2, ar draws amryw gyfryngau celfyddydol, gan gynnwys barddoniaeth, dylunio cymeriadau ac ysgrifennu creadigol, gwneud masgiau, ffotograffiaeth saethu gyda’r nos, gwneud ffilmiau, collage, batik, paentio, darlunio ac animeiddio.


Mae’n golygu llawer iawn i bawb sy’n gysylltiedig eu bod yn cael cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ac mae’r gwahaniaeth y mae’r prosiectau hyn yn ei wneud i les pobl ifanc drwy ymwneud â’r celfyddydau creadigol yn sylweddol.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at Flwyddyn 3!