Rhoi

Ddydd Gwener 4 Ebrill, gwnaeth Cymuned B Fit herio eu hunain i gwblhau 10 sesiwn ymarfer corff mewn 10 awr i gefnogi Cronfa Louie Stokes yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Roedd yr her hon i gyd i gefnogi Louie, mab Lottie a Karl, aelodau selog o B Fit, sydd wedi derbyn gofal gan Wasanaeth Calon Plant Cymru ers ei eni. Mae’r gronfa yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu triniaethau achub bywyd i blant fel Louie.

Mae ymrwymiad ac ymroddiad cymuned B Fit i gefnogi Louie, Lottie, Karl ac Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro i godi arian hanfodol wedi eu galluogi i ragori ar eu targed a hyd yn hyn maent wedi codi ychydig dros £1900 trwy eu tudalen JustGiving.

Daeth Cymuned B Fit at ei gilydd, gan wneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi achos anhygoel, a gallwch eu cefnogi o hyd yma: https://www.justgiving.com/page/b-fit-cardiff-2025-charitychallenge Gallwch ddarllen mwy am stori Louie yma https://healthcharity.wales/happy-heart-month-and-happy-birthday-louie-stokes/

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.