Trwy gydol mis Awst, dewisodd y timau gwych yn Bad Wolf, Screen Alliance Wales (SAW) ac IJPR godi arian ar gyfer ein Canolfan y Fron yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, lle mae eu ffrind a’u cydweithiwr Allison yn derbyn triniaeth ar gyfer canser y fron.
I ddangos eu cefnogaeth i Allison wrth iddi ddechrau ar ei thriniaeth, cychwynnodd Bad Wolf, SAW ac IJPR ar her 100 cilomedr i’w chwblhau ym mis Awst. P’un ai drwy redeg, cerdded, nofio ac ati, mae’r holl arian a godwyd wedi bod o fudd i’n Hapêl Canolfan y Fron.
Mae’r gefnogaeth a gawsant i gyd wedi bod yn anhygoel, ac mae’n dyst i’r ffaith bod pawb yn dymuno’n dda i Allison. Fel y dywedodd un o’r rhoddwyr, “[dyma] Eich holl bositifrwydd yn cael ei adlewyrchu yn ôl i chi. “. Yng ngeiriau’r tîm yn Bad Wolf, gwnaeth ‘the wonderful Wolfpack’ groesi’r llinell derfyn ar 2 Medi, gan gyrraedd eu targed o 100k, ar ôl codi dros £6,800 rhyngddynt.
Bydd y gwaith codi arian rhyfeddol hwn o’r her ‘Awst i Allison’ yn cefnogi cleifion yn uniongyrchol yng Nghanolfan y Fron, Ysbyty Athrofaol Llandochau, lle rydym yn trin rhwng 450 a 500 o gleifion canser y fron newydd bob blwyddyn ac yn gwasanaethu cleifion o Gymru gyfan a’r ardaloedd cyfagos. Ar adeg pan fydd cleifion yn bryderus iawn, dywedir wrthym ei fod yn gwneud gwahaniaeth enfawr iddynt gael gwasanaeth symlach a phwrpasol gyda phopeth o dan yr un to, a’r cymorth a ddarperir.
Mae pawb yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, Apêl Canolfan y Fron a’r cleifion a fydd yn elwa’n uniongyrchol ar eu cefnogaeth, yn ddiolchgar iawn i’r Wolfpack yn Bad Wolf, Screen Alliance Wales ac IJPR, ac wrth gwrs yn anfon ein dymuniadau gorau i Allison yn ystod ei thriniaeth a’i hadferiad.
Gallwch barhau i gefnogi ‘Awst i Allison’ yma: https://www.justgiving.com/page/august-for-allison ac am fwy o wybodaeth am ein Hapêl Canolfan y Fron, a sut y gallwch gefnogi’r gwaith a wnawn, cysylltwch â ni ar fundraising.cav@wales.nhs.uk