Rhoi

Mae dau aelod o Dîm Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a’r Fro yn mynd i wisgo eu hesgidiau cerdded ac ymgymryd â her dringo mynydd anodd iawn ym mis Mai eleni, er budd elusennol

Mae’r Ymarferydd Hybu Iechyd Kim Wilyman, ynghyd â’r Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd Lauren Thomas, wedi cofrestru i wneud her 10YFan sy’n cynnwys dringo Pen y Fan 10 gwaith mewn 24 awr.

Mae dringo’r mynydd 2,907 troedfedd o uchder sydd yn ardal brydferth Bannau Brycheiniog 10 gwaith yn cyfateb i ddringo i ben Everest sy’n amlygu maint anferthol yr her.

Bydd yr holl arian a godir gan y ddau unigolyn yn mynd tuag at Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, yr elusen swyddogol sy’n cefnogi holl wardiau ac adrannau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

“Mae’n mynd i fod yn brawf ffitrwydd, penderfyniad a grym ewyllys,” meddai Lauren. “Rwy’n barod am yr her, ac os gallaf gwblhau 10 yna ffantastig – ond yn bendant nid yw hyn yn rhywbeth yr wyf wedi arfer ei wneud. Rwy’n gobeithio y bydd fy ngliniau’n parhau i weithio!”

Mae Kim, sydd wedi cwblhau sawl ultra-marathon yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, wedi bod yn chwilio am her newydd. Dywedodd: “Roeddwn i’n arfer gweithio fel nyrs yn Ysbyty Athrofaol Cymru, felly bydd yn hyfryd rhoi rhywbeth yn ôl i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro sy’n gwneud cymaint dros gleifion a staff.

“Fy mhryder mwyaf yw’r swm o amser y byddwn yn dringo, a’r agwedd feddyliol o geisio dal ati. Ond dwi’n gwybod y byddwn ni’n sbarduno ein gilydd ac yn gwneud yn siŵr bod morâl yn uchel.

“Mae’n rhywbeth y byddwn ni’n bendant yn ei gofio am amser hir, yn enwedig os ydyn ni’n cael machlud haul a thoriad gwawr hyfryd. Gobeithio y bydd yn ddiwrnod clir.”

Os bydd y tywydd yn braf, bydd y pâr yn cychwyn yn gynnar gyda’r nos ddydd Sadwrn, 10 Mai ac yn parhau i gerdded trwy’r nos ac i mewn i’r diwrnod canlynol.

Bydd pob cyfranogwr yn penderfynu sawl gwaith y byddant yn dringo’r mynydd o fewn 24 awr. Ar hyn o bryd, mae tîm o wyth wedi dewis cymryd rhan yn 10YFan ar gyfer Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro. Os hoffech gefnogi’r tîm a rhoi, ewch i’r dudalen we JustGiving hon .

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.