Donate

Diolch i Hazel, Karon a Rob a gwblhaodd Her 3 Chopa Cymru yn ddiweddar i godi arian at Apêl Canolfan y Fron Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, Ysbyty Felindre a Maggie’s Cardiff.

Mae Hazel Dawson a Karon Norton yn ddau o gleifion Canolfan y Fron, ac yn benderfynol o roi yn ôl fel diolch am y gofal maen nhw wedi’i dderbyn.

Bu Hazel yn cadw blog dyddiadur o’u profiad:

Ein taith gerdded gyntaf – dechreuodd yr haul dywynnu yn Storey Arms, y llwybr mwyaf anodd a mwyaf serth!! Wedi’i gwblhau mewn 3 awr 30 munud. 1 drosodd, 2 i fynd. Er roedd hwnnw’n heriol! Mae’r her hon yn mynd i fod yn anodd iawn. Gorffennais i a Karon ein triniaeth ym mis Rhagfyr 2022 ond rydyn ni’n benderfynol o gwblhau’r her 👍

Gwnaeth ein hail daith, yr Wyddfa, ddechrau a gorffen yn y gwynt a’r glaw. Yn anffodus, ni lwyddon ni i weld y golygfeydd oherwydd yr amodau tywydd gwael. Gwyntoedd cryfion ar y copa, yn dal ar y creigiau am ein bywydau! Gwnaethom ddechrau yn Llanberis, y llwybr hiraf, a oedd yn ddringfa araf a chyson. Wedi’i gwblhau mewn 6 awr 30 munud. Roeddem yn flinedig iawn, un anodd arall. Gwnaethom ni ganu a chadw ein gilydd i fynd. Wedi’r cyfan, dyma pam mae’n cael ei alw’n her!!

Y daith olaf, tywydd ddim yn wych, wedi dechrau yn y glaw ond wedi gwella. Roedd hon yn bendant yn her arall i ni, roedden ni wedi blino, pothelli ar ein traed ond yn benderfynol ein bod am ei gyflawni waeth beth oedd o’n blaenau. Dringo’r holl ffordd, llethrau serth, tir creigiog mewn mannau. Roedd y golygfeydd yn ysblennydd. Gwnaethom gyrraedd y copa ac roeddem yn falch o’n hunain. Roedd y gwyntoedd yn anghredadwy, bu’n rhaid dal ar y creigiau oedd yn brofiad brawychus iawn. Ar y copa roedd y niwl yn gorchuddio’r dirwedd ac roedd disgynfa eithafol ochr arall i’r mynydd! Gwnaethom ein ffordd i lawr y mynydd. Y corff a’r traed yn boenus, dwylo’n anystwyth a gofyn am ganolbwyntio bob cam, ond roeddem mewn hwyliau da. Gwnaethom ni lwyddo!! Wedi’i gwblhau mewn 6 awr yn union. Roedd pryd o fwyd hyfryd ac ambell wydraid o win ar ddiwedd y dydd yn haeddiannol iawn!! Mor falch o’n gilydd – camp na fyddwn ni byth yn ei hanghofio 😊

Fel y gallwch ddarllen – her anhygoel i bob un ohonynt, ond yn enwedig Karon a Hazel ar ôl gorffen eu triniaeth yn ddiweddar. Anhygoel.

Hoffai Karon a Hazel hefyd sôn yn arbennig am Peter o Grays Autocentre, a gafodd 2 ddiwrnod i ffwrdd o’r gwaith a gwirfoddoli i fod yn yrrwr iddynt – i gyd yn rhad ac am ddim.

Yr holl waith caled hwn i godi arian sydd ei angen yn ddirfawr, a gallwch eu cefnogi o hyd yma: https://www.gofundme.com/f/maggies-velindre-marie-curie

Mae Hazel a Karon yn amlwg wedi’u hysbrydoli ymhellach i godi arian gan fod y ddwy wedi cofrestru i redeg Hanner Marathon Caerdydd 2023 i godi arian pellach ar gyfer ein Hapêl Canolfan y Fron! Cadwch lygad allan….

I gael rhagor o wybodaeth am ffyrdd y gallwch gefnogi Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, ac Apêl Canolfan y Fron, cysylltwch â ni ar fundraising.cav@wales.nhs.uk

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.