Donate

Mae tri aelod o staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi derbyn cydnabyddiaeth am eu hymdrechion i hyrwyddo’r Gymraeg.

Derbyniodd Lorraine Coultis, Dr Hywel Roberts a Lorena Garcia-Wright Wobrau newydd y Gymraeg am eu hymdrechion i hyrwyddo, datblygu a dathlu’r Gymraeg yn y Bwrdd Iechyd.

Mae’r gwobrau newydd, a noddir gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, wedi’u cyflwyno i gydnabod staff sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol at ddatblygu’r Gymraeg yn eu hadrannau a’u meysydd gwasanaeth.

Wedi’u lansio ar Ddydd Gŵyl Dewi, caiff Gwobrau’r Gymraeg eu rhoi’n flynyddol i amlygu’r unigolion hynny sydd wedi gwneud newidiadau yn eu gwaith i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hymgorffori’n llawn.

Cafodd Lorraine Coultis, Arweinydd Clinigol Theatrau Plant, Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru, ei dewis ar gyfer y wobr am ei brwdfrydedd a’i hymdrech i sicrhau bod yr holl gleifion a staff yn gallu defnyddio’r Gymraeg pan fyddant mewn Theatrau Plant, drwy greu arddangosfeydd Cymraeg i gleifion edrych arnynt cyn eu llawdriniaeth.

Gwnaeth Lorraine hefyd greu murlun Cymraeg rhyngweithiol i groesawu cleifion ifanc a’u teuluoedd i Ward y Gofod yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru. 

Dr Hywel Roberts, Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Gofal Critigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, yw ail enillydd y gwobrau newydd hyn, am iddo sicrhau bod yr holl staff sy’n siarad Cymraeg, a’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg ar ei ward, yn gallu cael gafael ar sticeri a greodd yn ei amser ei hun i staff gael dangos i gleifion eu bod yn siarad Cymraeg, tra eu bod yn gwisgo PPE yn ystod y pandemig COVID-19.  Roedd Hywel hefyd yn ddigon caredig i rannu’r syniad hwn gydag Adran y Gymraeg i staff gael defnyddio’r sticeri ar wardiau eraill pe bai angen.

Trydydd enillydd eleni yw Lorena Garcia-Wright, Therapi Galwedigaethol, Ysbyty Athrofaol Llandochau, am weithio gyda chleifion hŷn sy’n siarad Cymraeg ar wardiau iechyd meddwl yr henoed, E12 yn enwedig, a chreu wal ryngweithiol iddynt ei defnyddio ochr yn ochr â staff, lle gallant roi’r diwrnod, y dyddiad, y tymor a phethau eraill yn ddyddiol i gadw eu meddwl yn effro, gan ymgorffori’r Gymraeg ar yr un pryd.

Dywedodd Jessica Sharp, Swyddog y Gymraeg yn BIP Caerdydd a’r Fro: “Mae darparu ein gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn gallu gwella gofal yn sylweddol ar gyfer cleifion Cymraeg eu hiaith, a hoffwn ddiolch i Lorraine, Dr Roberts a Lorena, a’u llongyfarch ar eu hymdrechion i gyfrannu at hyn.

“Dyma’r flwyddyn gyntaf y bydd y Bwrdd Iechyd yn cymryd rhan mewn unrhyw beth tebyg i hyn, ac rwy’n gobeithio y bydd yn annog eraill i ymuno a’n helpu i symud tuag at fod yn fwrdd iechyd cwbl ddwyieithog yn y blynyddoedd i ddod.”

Mae’r gwobrau yn rhan o ymgyrch Meddwl Cymraeg y Bwrdd Iechyd, sy’n annog cyflogeion i roi’r Gymraeg ar flaen eu meddwl, ac ystyried sut y gallant gyfrannu at wneud gwasanaethau yn fwy hygyrch i siaradwyr Cymraeg.

Mae Tîm y Gymraeg hefyd wedi bod yn gweithio ar fasgot Cymraeg, a ymddangosodd ar furlun yn Ward y Gofod, a fydd yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo’r Gymraeg yn y Bwrdd Iechyd.  Gofynnwyd i blant yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru ddylunio ac enwi’r masgot, a fydd yn cael ei ddatgelu ar 1 Mawrth 2021.

I gael rhagor o wybodaeth am Wobrau’r Gymraeg neu sut y gallwch helpu i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws y Bwrdd Iechyd fel rhan o’r ymgyrch Meddwl Cymraeg, e-bostiwch cav.welshlanguageteam@wales.nhs.uk Os hoffech ragor o wybodaeth am sut y gall Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro helpu i wneud pethau’n well ar gyfer cleifion, staff ac ymwelwyr â’n hysbytai, ewch i wefan yr Elusen Iechyd.

Join us

To keep in touch with the latest from our fundraisers, and to hear about the charity projects that are making a difference right now, sign up to our newsletter! We take your confidentiality and data protection extremely seriously, as befits an NHS charity. We will store your details carefully, and we will not share them with anyone. We don’t do ‘pressurised’ fundraising – that’s not in our DNA.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.