Donate

Mae murlun dwyieithog newydd wedi’i osod yn Ward y Gofod yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru i helpu annog cleifion sy’n siarad Cymraeg i deimlo’n gyfforddus i ddefnyddio eu hiaith o ddewis ar y ward.

Lansiwyd y murlun ar thema’r gofod, a gefnogwyd gan Y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Mae’r murlun, a ddyluniwyd gan ddefnyddio syniadau gan gleifion a staff o Ward y Gofod, yn cynnwys ymadroddion Cymraeg a lluniau o dirnodau poblogaidd yng Nghymru, megis yr Wyddfa, Castell Coch a Stadiwm Principality, i annog cleifion ifanc, eu teuluoedd a staff y Bwrdd Iechyd i deimlo’n falch o’n treftadaeth a chael mynediad at wasanaethau’r Bwrdd Iechyd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd Jessica Sharp, Swyddog y Gymraeg yn BIP Caerdydd a’r Fro: “Mae’n bwysig bod ein cleifion o bob oedran sy’n siarad Cymraeg yn teimlo’n gyfforddus i ddefnyddio ein gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg os mai dyna eu hiaith o ddewis, felly rydw i’n falch iawn o’r murlun newydd hwn.

“Hoffwn ddiolch i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro am wneud y prosiect hwn yn bosibl, ac i gleifion a staff yn ysbyty’r plant am ddod â thaith Cadog drwy’r gofod yn fyw gyda’u syniadau gwych.”

Yn rhan o’r murlun, mae’r Bwrdd Iechyd hefyd wedi cyflwyno masgot newydd o’r enw Cadog, a fydd yn wyneb mwy a mwy cyfarwydd ledled y Bwrdd Iechyd i helpu hyrwyddo’r Gymraeg.

Dewiswyd enw’r masgot gan argymhellion a rannwyd gan blant ar Ward y Gofod, a chafwyd hwyl hefyd yn lliwio llun o Cadog.

Dywedodd Simone Joslyn, Pennaeth Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro: “Mae’n bleser gennym gefnogi ariannu’r prosiect hwn sydd nid yn unig yn llonni’r ward, ond hefyd yn helpu i amlygu ymrwymiad y Bwrdd Iechyd i’r Gymraeg ar gyfer ein cleifion ifanc a’u teuluoedd.

“Trwy ddarparu murluniau a chelf megis y gwaith hwn mewn ysbytai, mae wir yn helpu i wneud amgylcheddau deimlo’n fwy croesawgar a chyfeillgar, yn enwedig ar adeg sy’n anodd i’r claf a’r teulu.”

Mae’r murlun yn un cam bach sy’n rhan o nod y Bwrdd Iechyd i ddod yn sefydliad cwbl ddwyieithog. Mae’n rhan o’r ymgyrch Meddwl Cymraeg – Think Welsh, sy’n annog gweithwyr y Bwrdd Iechyd i roi’r Gymraeg ym mlaen eu meddwl, ac ystyried sut y gallant gyfrannu at wneud gwasanaethau yn fwy hygyrch i siaradwyr Cymraeg.

Grosvenor Interiors oedd yn gyfrifol am ddylunio a gosod y murlun newydd, a chafwyd cefnogaeth gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Dysgwch sut y gallwch gefnogi prosiectau yn y dyfodol sy’n gwella amgylcheddau clinigol ar wefan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Join us

To keep in touch with the latest from our fundraisers, and to hear about the charity projects that are making a difference right now, sign up to our newsletter! We take your confidentiality and data protection extremely seriously, as befits an NHS charity. We will store your details carefully, and we will not share them with anyone. We don’t do ‘pressurised’ fundraising – that’s not in our DNA.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.