 {"id":27060,"date":"2024-10-09T15:20:09","date_gmt":"2024-10-09T14:20:09","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/?p=27060"},"modified":"2024-10-09T15:20:12","modified_gmt":"2024-10-09T14:20:12","slug":"neal-jones-wedii-choronin-arwr-iechyd-ar-gyfer-mis-hydref","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/neal-jones-wedii-choronin-arwr-iechyd-ar-gyfer-mis-hydref\/","title":{"rendered":"Neal Jones wedi&#8217;i choroni&#8217;n Arwr Iechyd ar gyfer mis Hydref"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2024\/10\/Health-Hero-Template-51-1024x576.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-27061\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2024\/10\/Health-Hero-Template-51-1024x576.png 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2024\/10\/Health-Hero-Template-51-300x169.png 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2024\/10\/Health-Hero-Template-51-768x432.png 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2024\/10\/Health-Hero-Template-51-250x141.png 250w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2024\/10\/Health-Hero-Template-51.png 1200w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n bleser gan Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro gyhoeddi bod Neal Jones, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd yn Park Road Houses wedi\u2019i goroni\u2019n Arwr Iechyd ar gyfer mis Hydref, mewn pryd i nodi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd.<\/p>\n\n\n\n<p>Fel aelod annatod o&#8217;r t\u00eem nyrsio, dywedir bod ymroddiad Neal i ofal cleifion o fewn Gwasanaeth Adsefydlu ac Adfer y Bwrdd Clinigol Iechyd Meddwl yn rhagorol.<\/p>\n\n\n\n<p>Gan roi anghenion ei gleifion yn gyntaf, mae Neal yn mabwysiadu&nbsp; ymagwedd feddylgar a rhagweithiol i sicrhau eu lles. Mae&#8217;n trefnu gweithgareddau sydd nid yn unig yn cefnogi cleifion yn ystod eu hadferiad, ond hefyd yn darparu sgiliau bywyd cynaliadwy y gallant eu defnyddio wrth iddynt drosglwyddo yn \u00f4l i&#8217;r gymuned. Mae&#8217;r gweithgareddau hyn yn cynnwys nofio a beicio sy&#8217;n annog lles corfforol a meddyliol.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd Rheolwr y Ward, Owen Baglow, \u201cMae Neal wedi bod yn aelod allweddol o\u2019n Prosiect Gardd, ac yn mynd ati\u2019n barhaus i ddod o hyd i ffyrdd creadigol o gynnwys cleifion mewn tasgau ystyrlon fel dyfrio planhigion, torri lawntiau, a hyd yn oed peintio. Mae&#8217;r rhain yn sgiliau pwysig i gleifion sy&#8217;n paratoi ar gyfer byw&#8217;n annibynnol, ac mae ymagwedd gadarnhaol Neal sy&#8217;n canolbwyntio ar y claf wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu bywydau.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae\u2019n bwysig s\u00f4n bod Neal wedi bod yn wynebu heriau personol fel gofalwr, ond er gwaethaf hyn, mae\u2019n parhau i ddod i\u2019r gwaith gyda gw\u00ean ar ei wyneb ac yn llawn bywyd, gan ddod \u00e2 phositifrwydd ac egni i\u2019w gydweithwyr a\u2019i gleifion.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae ymrwymiad diwyro Neal i\u2019w gleifion, hyd yn oed yn wyneb ei anawsterau ei hun, yn ei wneud yn rhagorol.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd yr Uwch Reolwr Nyrsio, Joanne Glover, \u201cMae Neal yn ased anhygoel i Park Road wrth hyrwyddo annibyniaeth i\u2019n cleientiaid a rhoi\u2019r hyder iddynt feithrin sgiliau newydd a gwella\u2019r rhai presennol. Mae ymroddiad pobl fel Neal yn gwneud byd o wahaniaeth i fywydau pobl trwy wella ansawdd eu bywyd, lleihau dibyniaeth ar wasanaethau, a rhoi\u2019r gobaith sydd ei angen ar ein cleifion i fyw bywyd bodlon.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd Neal yn Arwr Iechyd yn ystod mis Hydref ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae wrth ei fodd gyda\u2019r enwebiad am y wobr.<\/p>\n\n\n\n<p>Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro a Park Plaza Caerdydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych chi\u2019n adnabod rhywun sydd wedi gweithio\u2019n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a\u2019r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni.<\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: <a href=\"mailto:fundraising.cav@wales.nhs.uk\">fundraising.cav@wales.nhs.uk<\/a>&nbsp;<br>Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw\u2019r enwebai a\u2019i r\u00f4l, yn ogystal \u00e2 rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi\u2019n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni\u2019n Arwr Iechyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i\u2019w ystyried ar gyfer y wobr.<\/p>\n\n\n\n<p>Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi\u2019r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i\u2019n GIG anhygoel!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019n bleser gan Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro gyhoeddi bod Neal Jones, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd yn Park Road Houses wedi\u2019i goroni\u2019n Arwr Iechyd ar gyfer mis Hydref, mewn pryd i nodi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Fel aelod annatod o&#8217;r t\u00eem nyrsio, dywedir bod ymroddiad Neal i ofal cleifion o fewn Gwasanaeth Adsefydlu ac<\/p>\n","protected":false},"author":11,"featured_media":27061,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":true,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[132],"tags":[],"class_list":["post-27060","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-arwr-iechyd"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/27060","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=27060"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/27060\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":27063,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/27060\/revisions\/27063"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/27061"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=27060"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=27060"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=27060"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}