 {"id":25042,"date":"2024-03-28T09:04:54","date_gmt":"2024-03-28T09:04:54","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/?p=25042"},"modified":"2024-03-28T09:04:57","modified_gmt":"2024-03-28T09:04:57","slug":"cadair-codi-a-gostwng-newydd-ar-gyfer-cleifion-adsefydlu-fasgwlaidd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/cadair-codi-a-gostwng-newydd-ar-gyfer-cleifion-adsefydlu-fasgwlaidd\/","title":{"rendered":"Cadair Codi a Gostwng Newydd ar gyfer Cleifion Adsefydlu Fasgwlaidd"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2024\/03\/chair.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-24987\" width=\"442\" height=\"434\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2024\/03\/chair.jpg 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2024\/03\/chair-300x295.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2024\/03\/chair-768x755.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2024\/03\/chair-250x246.jpg 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 442px) 100vw, 442px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p>Gyda chymorth Cronfa Bale Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro, prynwyd cadair codi a gostwng newydd ar gyfer cleifion fasgwlaidd sy\u2019n adsefydlu ar Ward 1, Adain Glan-y-Llyn, Ysbyty Athrofaol Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Uned Fasgwlaidd Ranbarthol Caerdydd yn darparu diagnosis a thriniaeth ar gyfer clefydau fasgwlaidd (problemau gyda chylchrediad a phibellau gwaed). Yn dilyn canoli gwasanaethau fasgwlaidd yn Ne-ddwyrain Cymru, y Ward Fasgwlaidd (B2) yw\u2019r Prif Ganolfan Fasgwlaidd ar gyfer Rhwydwaith Fasgwlaidd De-ddwyrain Cymru, ac mae gwasanaeth adsefydlu fasgwlaidd newydd wedi\u2019i greu ar Ward 1, Adain Glan-y-Llyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r cleifion hyn yn dal i fod yng nghamau cynnar eu hadsefydliad, llawer ohonynt yn dilyn trychu aelodau isaf y corff, ac fel arfer bydd ganddynt anghenion meddygol ac adsefydlu cymhleth sylweddol eraill. Mae nifer sylweddol o gleifion fasgwlaidd sydd colli aelodau o\u2019r corff yn llai abl i eistedd yn gyfforddus mewn cadair ysbyty gonfensiynol, neu drosglwyddo i\u2019w cadeiriau olwyn. Maent yn elwa\u2019n fawr o eistedd mewn cadair briodol, ddiogel yn hytrach na bod yn gaeth i\u2019w gwely.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y cadeiriau codi a gostwng yn galluogi dilyniant o ran adsefydlu\u2019r claf gan eu bod yn gallu gwneud mwy na chadair gogwyddo arferol. Yn ogystal \u00e2 galluogi amser therapi parhaus gyda\u2019r ffisiotherapyddion a\u2019r therapyddion galwedigaethol, bydd y gadair hefyd yn helpu\u2019r claf i eistedd allan o\u2019r gwely am gyfnodau hirach ac yn ystod amser bwyd. Mae hyn yn hyrwyddo adsefydlu, cymeriant maeth, a chynllunio ar gyfer y cartref.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd Kate Rowlands, Arbenigwr Nyrsio Fasgwlaidd: \u201cFel t\u00eem, rydym wrth ein bodd ac yn ddiolchgar ein bod wedi derbyn arian i brynu\u2019r gadair codi a gostwng hon ar gyfer ein cleifion fasgwlaidd sy\u2019n adsefydlu.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae cadair codi a gostwng nid yn unig yn darparu sedd gyfforddus, ond gall y math arbenigol hwn o gadair gynorthwyo\u2019r timau therapi a nyrsio i helpu claf i gyflawni ei nodau adsefydlu. Yn ogystal \u00e2\u2019r manteision hyn, gall eistedd mewn cadair gefnogi lles meddyliol claf, a hyrwyddo profiad cadarnhaol o ran eu hadferiad, yn enwedig pan fydd teulu\u2019n ymweld.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro yn falch iawn o gefnogi\u2019r prosiect, gan ei fod yn cyfrannu\u2019n uniongyrchol at adsefydliad ac adferiad cleifion. Bydd ychwanegu\u2019r gadair yn cynorthwyo gyda\u2019r addasiad seicolegol a ddaw yn sgil colli aelod o\u2019r corff a\u2019r cyfnod adfer, a bydd yn dod yn nod cadarnhaol yn nhaith adsefydlu cleifion.<\/p>\n\n\n\n<p>Os byddai eich ward neu adran yn elwa o offer ychwanegol a fydd o fudd i gleifion neu staff, cysylltwch \u00e2 <a href=\"mailto:fundraising.cav@wales.nhs.uk\">fundraising.cav@wales.nhs.uk<\/a> i drafod eich prosiect.<\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn cefnogi prosiectau fel hyn, rydym yn eich annog i gyfrannu at ward neu adran o\u2019ch dewis.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gyda chymorth Cronfa Bale Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro, prynwyd cadair codi a gostwng newydd ar gyfer cleifion fasgwlaidd sy\u2019n adsefydlu ar Ward 1, Adain Glan-y-Llyn, Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae Uned Fasgwlaidd Ranbarthol Caerdydd yn darparu diagnosis a thriniaeth ar gyfer clefydau fasgwlaidd (problemau gyda chylchrediad a phibellau gwaed). Yn dilyn canoli gwasanaethau fasgwlaidd yn<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":24987,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-25042","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/25042","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=25042"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/25042\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":25043,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/25042\/revisions\/25043"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/24987"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=25042"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=25042"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=25042"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}