 {"id":24995,"date":"2024-03-22T09:51:00","date_gmt":"2024-03-22T09:51:00","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/?p=24995"},"modified":"2024-03-22T09:51:05","modified_gmt":"2024-03-22T09:51:05","slug":"dawns-fawr-elusennol-i-gefnogi-cronfa-louie-stokes","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/dawns-fawr-elusennol-i-gefnogi-cronfa-louie-stokes\/","title":{"rendered":"Dawns Fawr Elusennol i Gefnogi Cronfa Louie Stokes"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2024\/03\/431101810_423463246867872_7206175894223094746_n-1024x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-24964\" width=\"441\" height=\"441\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2024\/03\/431101810_423463246867872_7206175894223094746_n-1024x1024.jpg 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2024\/03\/431101810_423463246867872_7206175894223094746_n-300x300.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2024\/03\/431101810_423463246867872_7206175894223094746_n-150x150.jpg 150w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2024\/03\/431101810_423463246867872_7206175894223094746_n-768x768.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2024\/03\/431101810_423463246867872_7206175894223094746_n-250x250.jpg 250w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2024\/03\/431101810_423463246867872_7206175894223094746_n.jpg 1170w\" sizes=\"auto, (max-width: 441px) 100vw, 441px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p>Yn ddiweddar cynhaliodd Lottie Stokes, sydd wedi bod yn codi arian ers tro, ddawns elusennol i gefnogi Sefydliad Prydeinig y Galon a Chronfa Louie Stokes yn Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro. Dechreuodd Lottie godi arian ar gyfer Gwasanaeth y Galon i Blant Cymru ar \u00f4l i\u2019w hail fab, Louie, gael diagnosis o gyflwr difrifol iawn ar y galon gan arwain at nifer o lawdriniaethau.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r teulu Stokes wedi chwarae rhan fawr yn yr ymdrechion i godi proffil Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a\u2019r Fro a chasglu arian ar gyfer achosion da er budd plant sydd \u00e2 chyflyrau ar y galon o\u2019u geni ledled Cymru. Defnyddiwyd yr arian a godwyd gan Lottie, ei g\u0175r Karl a Louie ei hun, i brynu offer newydd, gwella safonau\u2019r cyfleusterau diagnostig a oedd yn bodoli eisoes a hyrwyddo ymchwil ac addysg.<\/p>\n\n\n\n<p>Ddydd Sadwrn 2 Mawrth 2024, cynhaliodd y teulu ddawns fawr elusennol i gefnogi Cronfa Louie Stokes, gan godi swm anhygoel o \u00a32,000 i gefnogi Gwasanaeth y Galon i Blant Cymru. Codwyd \u00a34,000 arall i gefnogi Sefydliad Prydeinig y Galon.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd Lottie: \u201cCawsom amser gwych yn y Park Plaza nos Sadwrn a chodwyd llawer mwy o arian nag yr oeddwn yn disgwyl; rwy\u2019n dal i ryfeddu at y cariad a\u2019r gefnogaeth yn yr ystafell!\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae eich cefnogaeth yn golygu\u2019r byd i ni ac yn ein helpu i droi\u2019r sefyllfa gyda Louie, ein mab canol, sy\u2019n sefyllfa ofnadwy ar brydiau, yn un fwy cadarnhaol. Fe wnaethon ni ddawnsio drwy\u2019r nos gyda chalonnau llawn a hapus.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r teulu Stokes wedi ymrwymo i godi arian, a her nesaf Karl fydd cymryd rhan yn Marathon Llundain eleni! I\u2019w gefnogi gyda\u2019r her, <a href=\"https:\/\/www.justgiving.com\/page\/karl-stokes-1705941986285?utm_medium=fundraising&amp;utm_content=page%2Fkarl-stokes-1705941986285&amp;utm_source=copyLink&amp;utm_campaign=pfp-share\">cyfrannwch i\u2019w dudalen JustGiving.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Hoffai Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro ddiolch yn fawr i\u2019r teulu Stokes am eu hymroddiad a\u2019u cefnogaeth barhaus. Mae\u2019r arian a godir yn cyfrannu\u2019n uniongyrchol at fywydau plant \u00e2 chyflyrau\u2019r galon, gan eu helpu i fyw bywydau hir a hapus.<\/p>\n\n\n\n<p>I ddangos eich cefnogaeth drwy gyfrannu, tecstiwch <strong>LOUIE<\/strong> wedi\u2019i ddilyn gan swm eich rhodd at <strong>70085<\/strong> i roi\u2019r swm hwnnw. Bydd negeseuon testun yn costio swm y rhodd ynghyd ag un neges cyfradd rhwydwaith safonol.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn ddiweddar cynhaliodd Lottie Stokes, sydd wedi bod yn codi arian ers tro, ddawns elusennol i gefnogi Sefydliad Prydeinig y Galon a Chronfa Louie Stokes yn Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro. Dechreuodd Lottie godi arian ar gyfer Gwasanaeth y Galon i Blant Cymru ar \u00f4l i\u2019w hail fab, Louie, gael diagnosis o gyflwr difrifol iawn<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":24964,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-24995","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/24995","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=24995"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/24995\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":24996,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/24995\/revisions\/24996"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/24964"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=24995"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=24995"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=24995"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}