 {"id":24494,"date":"2024-01-11T10:11:21","date_gmt":"2024-01-11T10:11:21","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/?p=24494"},"modified":"2024-01-11T10:11:25","modified_gmt":"2024-01-11T10:11:25","slug":"29-ffordd-o-godi-arian-y-diwrnod-naid-hwn","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/29-ffordd-o-godi-arian-y-diwrnod-naid-hwn\/","title":{"rendered":"29 Ffordd o Godi Arian y Diwrnod Naid hwn"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"512\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2024\/01\/leap-day-banner-2-1024x512.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-24488\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2024\/01\/leap-day-banner-2-1024x512.png 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2024\/01\/leap-day-banner-2-300x150.png 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2024\/01\/leap-day-banner-2-768x384.png 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2024\/01\/leap-day-banner-2-250x125.png 250w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2024\/01\/leap-day-banner-2-500x250.png 500w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2024\/01\/leap-day-banner-2.png 1200w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae 2024 yn Flwyddyn Naid! Gan fod gennym un diwrnod ychwanegol cyfan, beth am ei ddefnyddio i wneud rhywbeth da?<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r Elusen Iechyd yn cefnogi&#8217;r holl wardiau, adrannau, ysbytai, gwasanaethau cymunedol ac ardaloedd ymchwil ledled Caerdydd a Bro Morgannwg. <\/p>\n\n\n\n<p>Beth am osod targed i chi&#8217;ch hun i godi \u00a3100 y flwyddyn naid hon! Bydd eich rhoddion yn cefnogi gwaith a phrosiectau yn ychwanegol at yr hyn y mae cyllid arferol y GIG yn ei ddarparu. Mae darparu ymchwil ac offer arloesol yn ganolog i\u2019n r\u00f4l elusennol.<\/p>\n\n\n\n<p>Dyma 29 syniad llawn hwyl am sut i godi arian i ddangos sut y gallech chi wneud rhywbeth ystyrlon a chofiadwy ar 29 Chwefror, drwy ddefnyddio eich diwrnod ychwanegol i&#8217;n helpu ni i gyrraedd ein targed.<\/p>\n\n\n\n<p>1. Beth am drefnu Gwerthiant Cacennau? Tr\u00eet canol wythnos i&#8217;r dosbarth neu&#8217;r swyddfa.<\/p>\n\n\n\n<p>2. Gofynnwch i&#8217;ch cyflogwr am drefnu raffl i ennill diwrnod ychwanegol o wyliau blynyddol a throwch y diwrnod ychwanegol yn ddiwrnod bonws o wyliau i un cydweithiwr lwcus.<\/p>\n\n\n\n<p>3. Trefnwch sioe ffasiwn \u2014 mae&#8217;r wisg orau yn ennill!<\/p>\n\n\n\n<p>4. Mae cwisiau bob amser yn llawer o hwyl; dewiswch eich lleoliad, penderfynwch ar y thema a chodwch ffi fynediad. Gallech chi hyd yn oed gynnig gwobr i&#8217;r t\u00eem buddugol.<\/p>\n\n\n\n<p>5. Mwynhewch Noson Gemau gyda ffrindiau a theulu a chodwch ffi fynediad fach ar gyfer pob g\u00eam.<\/p>\n\n\n\n<p>6. Cyflawnwch her gerdded 29 milltir ar eich pen eich hun neu fel gr\u0175p! Milltir y dydd ar gyfer mis Chwefror yn gyfangwbl.<\/p>\n\n\n\n<p>7. Dewiswch eich hoff gamp; dewiswch unrhyw weithgaredd a chael pobl i dalu ffi fynediad i gymryd rhan. O b\u00eal-droed 5 bob ochr i tenis i glwb rhedeg.<\/p>\n\n\n\n<p>8. Plymio o\u2019r awyr! Dychmygwch deimlo&#8217;r rhuthr wrth i chi gwympo\u2019n rhydd drwy\u2019r awyr ar 125mya o 10,000 troedfedd uwchben y ddaear \u2014 mae&#8217;n brofiad bythgofiadwy!<\/p>\n\n\n\n<p>9. Beth am fwynhau prynhawn heddychlon drwy drefnu Cyfnod o Dawelwch Noddedig? Yn y gwaith, yn yr ystafell ddosbarth neu gartref.<\/p>\n\n\n\n<p>10. Oes gennych lwyth o lyfrau yn casglu llwch? Defnyddiwch ap gwerthu llyfrau i&#8217;w gwerthu a rhowch i ni yr arian a godwyd.<\/p>\n\n\n\n<p>11. Rhowch diwb Smarties gwag i ffrindiau, teulu neu gydweithwyr a gofynnwch iddyn nhw ei lenwi \u00e2 darnau arian 20c neu (gwell fyth) darnau arian \u00a31. Rhowch y Smarties rydych chi wedi&#8217;u gwagio mewn jar a threfnwch gystadleuaeth &#8216;Dyfalu Faint o Smarties&#8217; sydd yn y jar.<\/p>\n\n\n\n<p>12. Pizza Diwrnod T\u00e2l \u2014 gofynnwch i&#8217;ch cyflogwr dalu am y pizza ac yna gwerthu\u2019r sleisys i gydweithwyr am rodd?<\/p>\n\n\n\n<p>13. Byddwch yn actif! Os oes gennych fynediad i barc lleol neu fan agored, gallech noddi cydweithwyr, staff neu ddisgyblion am nifer y lapiau y maent yn eu cwblhau.<\/p>\n\n\n\n<p>14. Pwy a \u0175yr pa dalentau cyfrinachol sydd gan eich cydweithwyr neu&#8217;ch disgyblion? Trefnwch Sioe Dalent amser cinio a thalu i wylio&#8217;r hwyl!<\/p>\n\n\n\n<p>15. Ar yr adeg hon o&#8217;r flwyddyn, mae\u2019n bosib nad yw\u2019ch car yn edrych ar ei orau. Ewch i n\u00f4l y sbwng a\u2019r bwced dd\u0175r a chynigiwch wasanaeth Golchi Ceir yn y maes parcio; a\u2019r cyfan am rodd wrth gwrs!<\/p>\n\n\n\n<p>16. Wyddoch chi fod eich bos yn arfer bod yn fabi bach annwyl yr olwg?! Gofynnwch i\u2019ch cydweithwyr ddod \u00e2 llun ohonynt yn fabi i\u2019r gwaith a rhowch nhw i gyd ar fwrdd neu ar ddalen i bawb eu gweld. Codwch ffi i gymryd rhan a cheisiwch gyfateb y lluniau \u00e2&#8217;ch cydweithwyr.<\/p>\n\n\n\n<p>17. Cynhaliwch Arwerthiant Garej. Wrth i&#8217;r gwanwyn agos\u00e1u, beth am glirio&#8217;r hen i wneud lle i&#8217;r newydd, gydag arwerthiant cist car neu arwerthiant garej. Gallech chi hyd yn oed ymuno \u00e2&#8217;ch cymdogion a&#8217;i wneud yn ddigwyddiad i\u2019r stryd cyfan.<\/p>\n\n\n\n<p>18. Sioe ffasiwn swyddfa! Gofynnwch i\u2019ch t\u00eem ddod i mewn i&#8217;r gwaith yn gwisgo eu gwisg orau a phleidleisiwch dros enillydd. Casglwch rodd ar gyfer pob person sy&#8217;n cymryd rhan.<\/p>\n\n\n\n<p>19. Cerdded C\u0175n &#8211; ffordd hawdd o godi arian i&#8217;r rhai sy&#8217;n caru eu ffrindiau bach blewog. Cynigiwch wasanaeth cerdded c\u0175n i ffrindiau a chymdogion y Diwrnod Naid hwn, am rodd fach.<\/p>\n\n\n\n<p>20. Beth allai fod yn fwy pleserus na digwyddiad te prynhawn? Ewch ati i bobi, gwneud brechdanau a phaned o de. Gyda&#8217;ch ffrindiau, teulu neu gr\u0175p cymunedol, cynhaliwch de parti a gofynnwch am rodd i fynychu.<\/p>\n\n\n\n<p>21. Cynigiwch eich amser i siopwyr archfarchnadoedd ar ddydd Sadwrn. Trwy drefniant gyda&#8217;ch archfarchnad leol, gofynnwch i gwsmeriaid am rodd yn gyfnewid am eich help i bacio eu bagiau yn gyflym.<\/p>\n\n\n\n<p>22. Trefnwch jar arian yn y gwaith neu gartref a phob tro y bydd rhywun yn rhegi neu&#8217;n chwibanu neu&#8217;n cwyno&#8230; bydd \u00a31 yn mynd yn y jar.<\/p>\n\n\n\n<p>23. Gallai dosbarth eich ysgol gymryd rhan mewn Her Darllen y Diwrnod Naid hwn. Diffoddwch eich gemau fideo a cheisiwch weld faint o lyfrau y gallwch eu darllen a chael eich noddi i gymryd rhan.<\/p>\n\n\n\n<p>24. Mae sesiwn Nofio Noddedig dan do yn opsiwn codi arian gwych ar gyfer tywydd anrhagweladwy mis Chwefror.<\/p>\n\n\n\n<p>25. Cynhaliwch Brynhawn Crefft; ewch i n\u00f4l papur, glud, siswrn a glitter a byddwch yn greadigol! Mae yna lawer o adnoddau ar-lein os oes angen ysbrydoliaeth arnoch chi. Gofynnwch am roddion i fynychu.<\/p>\n\n\n\n<p>26. Cynhaliwch barti a chodwch ffi fynediad.<\/p>\n\n\n\n<p>27. Mae g\u00eam o Bingo yn llawer o hwyl a gellir ei chwarae yn yr ystafell ddosbarth neu&#8217;r swyddfa. Gellir ei haddasu i gyd-fynd \u00e2 gwahanol them\u00e2u a&#8217;i chwarae mewn un sesiwn neu gallwch alw rhifau ar hap drwy gydol y dydd. Talwch i chwarae a chynnig gwobr i&#8217;r person cyntaf i alw &#8216;t\u0177&#8217;!<\/p>\n\n\n\n<p>28. Trefnwch Siop &#8211; beth sydd ei angen yn eich ysgol neu&#8217;ch swyddfa? Prynwch a gwerthwch am rodd deg fel bod eich costau yn cael eu talu, a\u2019ch bod yn gwneud elw y gallwch ei roi fel rhodd.<\/p>\n\n\n\n<p>29. Dangoswch ffilm amser cinio; codwch ffi fach a chynnig popcorn i&#8217;r rhai a fydd eisiau dod draw i wylio.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae miloedd o gleifion mewnol yn derbyn gofal ysbyty bob dydd. Gadewch i ni helpu i wneud gwahaniaeth i&#8217;n GIG yng Nghaerdydd a&#8217;r Fro y Flwyddyn Naid hon gyda&#8217;n gilydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Os oes gennych chi syniad eisoes am sut yr hoffech godi arian, ffoniwch neu e-bostiwch ni! Byddem wrth ein bodd yn gallu eich cefnogi chi a darparu unrhyw gymorth a allwn. Cysylltwch \u00e2 ni <a href=\"https:\/\/healthcharity.wales\/contact\/\">yma<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae 2024 yn Flwyddyn Naid! Gan fod gennym un diwrnod ychwanegol cyfan, beth am ei ddefnyddio i wneud rhywbeth da? Mae&#8217;r Elusen Iechyd yn cefnogi&#8217;r holl wardiau, adrannau, ysbytai, gwasanaethau cymunedol ac ardaloedd ymchwil ledled Caerdydd a Bro Morgannwg. Beth am osod targed i chi&#8217;ch hun i godi \u00a3100 y flwyddyn naid hon! Bydd eich<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":true,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-24494","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/24494","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=24494"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/24494\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":24495,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/24494\/revisions\/24495"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=24494"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=24494"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=24494"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}