 {"id":24325,"date":"2023-12-15T07:25:14","date_gmt":"2023-12-15T07:25:14","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/?p=24325"},"modified":"2023-12-15T07:25:19","modified_gmt":"2023-12-15T07:25:19","slug":"sue-friis-jones-wedii-choronin-arwr-iechyd-ar-gyfer-mis-rhagfyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/sue-friis-jones-wedii-choronin-arwr-iechyd-ar-gyfer-mis-rhagfyr\/","title":{"rendered":"Sue Friis-Jones wedi&#8217;i choroni&#8217;n Arwr Iechyd ar gyfer mis Rhagfyr"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2023\/12\/Health-Hero-Template-36-1024x576.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-24326\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2023\/12\/Health-Hero-Template-36-1024x576.png 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2023\/12\/Health-Hero-Template-36-300x169.png 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2023\/12\/Health-Hero-Template-36-768x432.png 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2023\/12\/Health-Hero-Template-36-250x141.png 250w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2023\/12\/Health-Hero-Template-36.png 1200w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n bleser gan Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro gyhoeddi bod Sue Friis-Jones, Rheolwr Cymorth Gofal Sylfaenol, wedi\u2019i choroni\u2019n Arwr Iechyd ar gyfer mis Rhagfyr.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Sue wedi gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Caerdydd a\u2019r Fro ers dros 30 mlynedd mewn amrywiol adrannau, gan ennill llawer iawn o wybodaeth a meithrin cydberthnasau gwaith rhagorol gyda llawer o bobl ac adrannau.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd Jen Pugh a Caroline Sharp, Hyrwyddwyr Lles gyda\u2019r T\u00eem Gofal Sylfaenol, \u201cOs nad yw Sue yn gwybod yr ateb i rywbeth, sy\u2019n brin iawn ynddo\u2019i hun, bydd yn adnabod y person sydd yn gwybod yr ateb. Bydd Sue yn mynd gam ymhellach i unrhyw un sydd angen ei help, bob amser yn barod i gymryd cydweithwyr o dan ei hadain, ac yn cefnogi pawb mewn unrhyw ffordd a all.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cAm nifer o flynyddoedd, bu Sue yn rhedeg siop fwyd Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Chanolraddol (PCIC) yn Nh\u0177 Coetir a oedd yn hynod boblogaidd, gan sicrhau bod ffrindiau a chydweithwyr yn cael dewis o ddanteithion a diodydd hyfryd. Mae Sue bob amser yn trefnu digwyddiadau hwyliog yn y swyddfa fel sw\u00eeps ar gyfer digwyddiadau chwaraeon, casgliadau t\u00eem, ac wrth gwrs ei chwis Nadolig enwog.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Y tu allan i&#8217;r gwaith, mae Sue wedi bod yn arwain y Sgowtiaid ers nifer o flynyddoedd, ac yn flaenorol bu hefyd yn arwain grwpiau eraill fel y Geidiaid. Roedd ei gwaith a\u2019i hymroddiad i\u2019r grwpiau hyn wedi ei harwain i gyfarfod a gwneud gwahaniaeth i fywydau llawer o bobl ifanc, ac mae ei hanturiaethau gyda nhw wedi mynd \u00e2 hi i bedwar ban byd.<\/p>\n\n\n\n<p>Parhaodd Jen a Caroline, \u201cYn fyr, mae Sue yn berson hollol wych. Mae hi&#8217;n Sue-perb!&#8221;<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd Sue yn Arwr Iechyd ar gyfer mis Rhagfyr ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae hi wrth ei bodd gyda\u2019r enwebiad am y wobr.<\/p>\n\n\n\n<p>Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro a Park Plaza Caerdydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych chi\u2019n adnabod rhywun sydd wedi gweithio\u2019n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a\u2019r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni. Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw\u2019r enwebai a\u2019i r\u00f4l, yn ogystal \u00e2 rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi\u2019n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni\u2019n Arwr Iechyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i\u2019w ystyried ar gyfer y wobr.<\/p>\n\n\n\n<p>Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi\u2019r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i\u2019n GIG anhygoel!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019n bleser gan Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro gyhoeddi bod Sue Friis-Jones, Rheolwr Cymorth Gofal Sylfaenol, wedi\u2019i choroni\u2019n Arwr Iechyd ar gyfer mis Rhagfyr. Mae Sue wedi gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Caerdydd a\u2019r Fro ers dros 30 mlynedd mewn amrywiol adrannau, gan ennill llawer iawn o wybodaeth a meithrin cydberthnasau gwaith rhagorol gyda llawer<\/p>\n","protected":false},"author":11,"featured_media":24327,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":true,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-24325","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/24325","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=24325"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/24325\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":24328,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/24325\/revisions\/24328"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/24327"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=24325"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=24325"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=24325"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}