 {"id":24113,"date":"2023-11-28T08:52:50","date_gmt":"2023-11-28T08:52:50","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/?p=24113"},"modified":"2023-11-28T08:52:54","modified_gmt":"2023-11-28T08:52:54","slug":"trudy-logue-wedii-choronin-arwr-iechyd-ar-gyfer-mis-tachwedd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/trudy-logue-wedii-choronin-arwr-iechyd-ar-gyfer-mis-tachwedd\/","title":{"rendered":"Trudy Logue wedi&#8217;i choroni&#8217;n Arwr Iechyd ar gyfer mis Tachwedd"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2023\/11\/Health-Hero-Template-4-1024x576.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-24098\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2023\/11\/Health-Hero-Template-4-1024x576.png 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2023\/11\/Health-Hero-Template-4-300x169.png 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2023\/11\/Health-Hero-Template-4-768x432.png 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2023\/11\/Health-Hero-Template-4-250x141.png 250w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2023\/11\/Health-Hero-Template-4.png 1200w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n bleser gan Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro gyhoeddi bod Trudy Logue, Nyrs Glinigol Arbenigol, Ysbyty Athrofaol Cymru, wedi\u2019i choroni\u2019n Arwr Iechyd ar gyfer mis Tachwedd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Trudy yn gweithio fel Nyrs Arrhythmia o fewn yr adran Gardioleg ac mae&#8217;n mynd gam ymhellach ar gyfer ei chleifion. Wrth drafod yr enwebiad hwn, dywedodd claf, \u201cAr \u00f4l i mi gael fy nhrosglwyddo i\u2019r adran Gardioleg, roedd Trudy yno ar rownd gyntaf y ward ac yn aml yn galw i fy ngweld ar y ward. Ymhlith yr anhrefn a\u2019r dryswch, roedd Trudy yn bresenoldeb cyson a helpodd fi i wneud synnwyr o\u2019r hyn oedd yn digwydd.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Gan fod y claf wedi cael ei dderbyn yn ystod anterth y pandemig, ni chaniatawyd ymweliadau gan deulu a ffrindiau a oedd yn golygu ei fod yn teimlo&#8217;n unig ac yn ynysig. Gan fod llawdriniaeth y claf wedi&#8217;i gohirio oherwydd haint, trefnodd Trudy &#8216;Fest Bywyd&#8217; sydd yn ei hanfod yn ddiffibriliwr allanol sy&#8217;n caniat\u00e1u i&#8217;r claf ddychwelyd adref i orffwys. Yn ystod y cyfnod hwn gwnaeth Trudy gadw mewn cysylltiad rheolaidd drwy alwadau ff\u00f4n a threfnodd hefyd i Gynrychiolydd y &#8216;Fest Bywyd&#8217; wneud yr un peth tan y llawdriniaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd y claf, \u201cSawl mis ar \u00f4l y llawdriniaeth lwyddiannus, roedd dychwelyd i\u2019r gwaith yng nghanol y pandemig yn hynod heriol ac rwy\u2019n cyfaddef fy mod wedi cael trafferth. Fodd bynnag, roedd Trudy mor barod i fi gysylltu \u00e2 hi os oedd angen cymorth arnaf ac roedd yn fy ngweld yn rheolaidd yn y clinig Cardioleg yn ystod fy apwyntiadau dilynol. Mae Trudy wedi bod yn hynod gefnogol a chydymdeimladol drwy\u2019r amser.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Disgrifiwyd Trudy fel un hynod garedig a thosturiol, ac mae\u2019n parhau i adeiladu ar ei gwybodaeth a gwella gofal cleifion trwy ymgymryd \u00e2 MSc mewn Ymarfer Clinigol Uwch. Ar hyn o bryd mae hi&#8217;n gweithio ar ei thraethawd hir ar brofiad cleifion sy&#8217;n defnyddio &#8216;Festiau Bywyd&#8217;.<\/p>\n\n\n\n<p>Meddai\u2019r claf, \u201cMae Trudy yn dawel a diwyd, ac yn fy llygaid i, mae hi\u2019n arwr di-glod. Byddaf yn ddyledus iddi am byth.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd Trudy yn Arwr Iechyd ar gyfer mis Tachwedd ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae hi wrth ei bodd gyda\u2019r enwebiad am y wobr.<\/p>\n\n\n\n<p>Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro a Park Plaza Caerdydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych chi\u2019n adnabod rhywun sydd wedi gweithio\u2019n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a\u2019r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni. Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw\u2019r enwebai a\u2019i r\u00f4l, yn ogystal \u00e2 rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi\u2019n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni\u2019n Arwr Iechyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i\u2019w ystyried ar gyfer y wobr.<\/p>\n\n\n\n<p>Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi\u2019r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i\u2019n GIG anhygoel!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019n bleser gan Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro gyhoeddi bod Trudy Logue, Nyrs Glinigol Arbenigol, Ysbyty Athrofaol Cymru, wedi\u2019i choroni\u2019n Arwr Iechyd ar gyfer mis Tachwedd. Mae Trudy yn gweithio fel Nyrs Arrhythmia o fewn yr adran Gardioleg ac mae&#8217;n mynd gam ymhellach ar gyfer ei chleifion. Wrth drafod yr enwebiad hwn, dywedodd claf, \u201cAr<\/p>\n","protected":false},"author":11,"featured_media":24098,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":true,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-24113","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/24113","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=24113"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/24113\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":24114,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/24113\/revisions\/24114"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/24098"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=24113"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=24113"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=24113"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}