 {"id":20688,"date":"2023-03-01T14:06:48","date_gmt":"2023-03-01T14:06:48","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/?p=20688"},"modified":"2023-03-01T14:06:54","modified_gmt":"2023-03-01T14:06:54","slug":"mae-dydd-gwyl-dewi-2023-yn-nodi-40-mlynedd-ers-cynnal-y-trawsblaniad-bon-gelloedd-cyntaf-yng-nghymru-ar-1-mawrth-1983","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/mae-dydd-gwyl-dewi-2023-yn-nodi-40-mlynedd-ers-cynnal-y-trawsblaniad-bon-gelloedd-cyntaf-yng-nghymru-ar-1-mawrth-1983\/","title":{"rendered":"Mae Dydd G\u0175yl Dewi 2023 yn nodi 40 mlynedd ers cynnal y trawsblaniad b\u00f4n-gelloedd cyntaf yng Nghymru ar 1 Mawrth 1983"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"231\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2023\/03\/Bone-Marrow-Transplant-1024x231.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-20684\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2023\/03\/Bone-Marrow-Transplant-1024x231.jpg 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2023\/03\/Bone-Marrow-Transplant-300x68.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2023\/03\/Bone-Marrow-Transplant-768x173.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2023\/03\/Bone-Marrow-Transplant-250x56.jpg 250w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2023\/03\/Bone-Marrow-Transplant.jpg 1134w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae Dydd G\u0175yl Dewi 2023 yn nodi 40 mlynedd ers cynnal y trawsblaniad b\u00f4n-gelloedd cyntaf yng Nghymru ar 1 Mawrth 1983. Roedd hyn mewn menyw ifanc a oedd yn dioddef o lewcemia myeloid cronig sef y rheswm mwyaf cyffredin, bryd hynny, dros gael trawsblaniad b\u00f4n-gelloedd (rhoddwr) alogen\u00ebig gan nad oedd y therap\u00efau amgen iachaol posibl sydd ar gael heddiw ar gael bryd hynny. Cynhaliwyd y cyflawniad nodedig hwn gan ddefnyddio rhoddwr brawd neu chwaer, a llai na dwy flynedd yn ddiweddarach, cynhaliwyd y trawsblaniad cyntaf gan ddefnyddio rhoddwr nad oedd yn perthyn i\u2019r claf ym mis Ionawr 1985, eto ar gyfer claf \u00e2 lewcemia myeloid cronig. Dilynodd datblygiadau eraill yn fuan gyda&#8217;r trawsblaniad pediatrig cyntaf yn cael ei gynnal yn Ysbyty Llandochau ym 1986 a&#8217;r trawsblaniad cyntaf yn cael ei gynnal yn Abertawe yn Ysbyty Singleton ym 1997. Symudodd y rhaglen trawsblannu pediatrig i safle Ysbyty Athrofaol Cymru yn 2005 ar \u00f4l agor Ysbyty Plant Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Cefnogwyd yr holl unedau clinigol gan gyfleusterau casglu a phrosesu ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru, ac ar 31 Awst 2011, yn dilyn cyfnod o gysoni, gwnaeth yr unedau i gyd uno a mabwysiadu\u2019r enw Rhaglen Trawsblannu Gwaed a M\u00ear Esgyrn De Cymru (SWBMT). Roedd yr enw&#8217;n adlewyrchu&#8217;r ffaith nad oedd b\u00f4n-gelloedd yn cael eu casglu&#8217;n uniongyrchol o&#8217;r m\u00ear esgyrn mwyach ond, yn y mwyafrif o achosion, o&#8217;r gwaed ymylol, ar \u00f4l ysgogi&#8217;r m\u00ear gyda cytocin (cemegyn) o&#8217;r enw G-CSF neu ffactor ysgogi clwstwr o gronyngelloedd. Mae Rhaglen SWBMT yn gwasanaethu chwech o&#8217;r saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru (pob un heblaw am BIP Betsi Cadwaladr) sy&#8217;n cyfateb i oddeutu 80% o boblogaeth Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Ymhlith y cerrig milltir arwyddocaol eraill dros y pedwar degawd diwethaf mae defnyddio cemotherapi cyflyru dwyster llai yn arwain at y trawsblaniad, a&#8217;i gwnaeth yn bosibl codi&#8217;r terfyn oedran uchaf o 45-50 oed i gleifion yng nghanol eu 70au; cynyddu\u2019r defnydd o roddwyr nad ydynt yn perthyn i\u2019r claf (sydd bellach yn cyfrif am oddeutu 75% o drawsblaniadau alogen\u00ebig) gan mai dim ond 20-30% o gleifion sydd angen rhoddwr fyddai&#8217;n dod o hyd i gyfatebiaeth o fewn eu teulu. Rydym yn ddyledus i Gofrestrfa Rhoddwyr M\u00ear Esgyrn Cymru (WBMDR) sy&#8217;n dod o hyd i roddwyr ar gyfer cleifion o Gymru a Labordy Trawsblannu ac Imiwnogeneteg Cymru (WTAIL) sy&#8217;n cyflawni\u2019r broses teipio meinwe (HLA) gymhleth i sicrhau bod cydweddiad cystal \u00e2 phosibl yn cael ei ganfod. Mae WBMDR a WTAIL yn rhan o Wasanaeth Gwaed Cymru, partner pwysig ar gyfer Rhaglen SWBMT.<\/p>\n\n\n\n<p>Ym mis Rhagfyr 2018 cymhwysodd Rhaglen SWBMT fel canolfan CAR-T i ddarparu therapi newydd cyffrous lle mae celloedd imiwnedd y claf ei hun yn cael eu haddasu&#8217;n enetig i adnabod a lladd celloedd canser. Dechreuwyd darparu triniaeth CAR-T yn 2019 ac mae&#8217;r dirwedd yn awgrymu y bydd y driniaeth hon yn cael ei darparu i nifer cynyddol o gleifion yn y blynyddoedd i ddod. Mae&#8217;r Rhaglen wedi&#8217;i hachredu gan JACIE, sefydliad rhyngwladol annibynnol sy&#8217;n achredu rhaglenni trawsblannu yn Ewrop ynghyd \u00e2&#8217;i sefydliad partner FACT, sy&#8217;n achredu i&#8217;r un safonau yng Ngogledd America. Yn ogystal, mae&#8217;r Rhaglen wedi&#8217;i thrwyddedu gan yr Awdurdod Meinweoedd Dynol i sicrhau bod safonau ansawdd a diogelwch sy&#8217;n rhwymol yn gyfreithiol yn cael eu bodloni.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan Raglen SWBMT bortffolio ymchwil a datblygu gweithgar iawn i gefnogi ei gweithgarwch clinigol ac mae cyflawniadau nodedig yn cynnwys aelodaeth a chyllid gan IMPACT, consortiwm o raglenni trawsblannu yn y DU sy&#8217;n ymroddedig i ddarparu treialon trawsblannu llwybr carlam; ac<\/p>\n\n\n\n<p>aelodaeth a chyllid gan Ganolfan Meddygaeth Canser Arbrofol Caerdydd, a ariennir gan CRUK a chyrff cyllido ymchwil llywodraethol y DU i ddarparu treialon cyfnod cynnar ar gyfer cleifion canser. Chwaraeodd aelodau o Raglen SWBMT ran allweddol hefyd yn y cais llwyddiannus gan Ganolfan Triniaeth Therap\u00efau Datblygedig Canolbarth Lloegr a Chymru (ATTC) wrth gael ei dewis fel un o ddim ond tair canolfan yn y DU i gael statws ATTC gan Lywodraeth y DU, a ffurfio Therap\u00efau Datblygedig Cymru, un o bedair colofn Meddygaeth Fanwl Llywodraeth Cymru, sy&#8217;n ymroddedig i ddod \u00e2 therap\u00efau datblygedig newydd i boblogaeth Cymru. Yn 2020 sefydlwyd Consortiwm Therap\u00efau Cellog Cymru i gydlynu gweithgareddau ymchwil Rhaglen SWBMT.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd digwyddiad dathlu yn nodi&#8217;r garreg filltir bwysig hon o 40 mlynedd o wasanaeth yn ddiweddarach yn y flwyddyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Os hoffech gefnogi&#8217;r Uned Trawsblannu M\u00ear Esgyrn drwy gynnal digwyddiad codi arian, cysylltwch \u00e2 <a href=\"mailto:fundraising.cav@wales.nhs.uk\">fundraising.cav@wales.nhs.uk<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Edrychwch ar ychydig o weithgareddau codi arian diweddar <a href=\"https:\/\/healthcharity.wales\/hafod-employees-raise-4000-for-bone-marrow-transplant-unit\/\">yma<\/a>. <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Dydd G\u0175yl Dewi 2023 yn nodi 40 mlynedd ers cynnal y trawsblaniad b\u00f4n-gelloedd cyntaf yng Nghymru ar 1 Mawrth 1983. Roedd hyn mewn menyw ifanc a oedd yn dioddef o lewcemia myeloid cronig sef y rheswm mwyaf cyffredin, bryd hynny, dros gael trawsblaniad b\u00f4n-gelloedd (rhoddwr) alogen\u00ebig gan nad oedd y therap\u00efau amgen iachaol posibl<\/p>\n","protected":false},"author":11,"featured_media":20684,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":true,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-20688","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/20688","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=20688"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/20688\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":20689,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/20688\/revisions\/20689"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/20684"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=20688"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=20688"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=20688"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}