 {"id":20623,"date":"2023-02-21T10:00:00","date_gmt":"2023-02-21T10:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/?p=20623"},"modified":"2023-02-20T13:08:09","modified_gmt":"2023-02-20T13:08:09","slug":"mis-cenedlaethol-y-galon-evan-price","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/mis-cenedlaethol-y-galon-evan-price\/","title":{"rendered":"Mis Cenedlaethol y Galon &#8211; Evan Price"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2023\/02\/Evan-Prof-Uzun-Dr-Wong.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-20621\" width=\"330\" height=\"439\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2023\/02\/Evan-Prof-Uzun-Dr-Wong.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2023\/02\/Evan-Prof-Uzun-Dr-Wong-225x300.jpg 225w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2023\/02\/Evan-Prof-Uzun-Dr-Wong-188x250.jpg 188w\" sizes=\"auto, (max-width: 330px) 100vw, 330px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar gyfer Mis Cenedlaethol y Galon ym mis Chwefror, rydym yn rhannu straeon ysbrydoledig a gwaith anhygoel yr Adran Gardioleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a\u2019r Fro.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ganwyd Evan Price ym mis Tachwedd 2009 yn Ysbyty Athrofaol Cymru ar \u00f4l beichiogrwydd iach a syml i\u2019w fam, Si\u00e2n. O fewn oriau o gael ei eni, roedd yn amlwg bod problem. Rhoddodd yr Athro Orhan Uzun ddiagnosis i Evan o nam strwythurol mawr ar y galon, o\u2019r enw Trawsosodiad y Rhydwel\u00efau Mawr (TGA). Gan nad yw llawdriniaethau ar y galon i blant yn cael eu cynnal yng Nghymru, daeth t\u00eem o Ysbyty Brenhinol Plant Bryste draw i Ysbyty Athrofaol Cymru i sefydlogi Evan cyn ei gludo i Fryste.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2023\/02\/Evan-cricket-513x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-20617\" width=\"264\" height=\"527\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2023\/02\/Evan-cricket-513x1024.jpg 513w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2023\/02\/Evan-cricket-150x300.jpg 150w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2023\/02\/Evan-cricket-125x250.jpg 125w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2023\/02\/Evan-cricket.jpg 601w\" sizes=\"auto, (max-width: 264px) 100vw, 264px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Unwaith iddo gyrraedd Ysbyty Brenhinol Plant Bryste, cafodd Evan ei roi ar beiriant cynnal bywyd yn yr Uned Gofal Dwys Pediatrig (PICU) cyn ei lawdriniaeth ar y galon. Perfformiwyd y Llawdriniaeth Cyfnewid Rhydwel\u00efol (<em>Arterial Switch Operation<\/em>) pan oedd Evan yn ddim ond naw diwrnod oed. Yn dilyn ei lawdriniaeth lwyddiannus dychwelodd Evan i PICU, ac yna i ward y galon ym Mryste, cyn cael ei drosglwyddo yn \u00f4l i Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru (CHfW) i barhau \u00e2\u2019i adferiad. Dioddefodd Evan o gyfnod o <em>Supra-ventricular tachycardia<\/em> tra yn CHfW ond llwyddodd yr Athro Dr. Orhan Uzun a Dr. Amos Wong i\u2019w reoli.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Treuliodd bum wythnos gyntaf ei fywyd yn y ddau ysbyty cyn cael ei ryddhau adref am y tro cyntaf, ac erbyn hyn mae Evan yn parhau i fod dan ofal y gwasanaeth cardiaidd i blant yn Ysbyty Athrofaol Cymru, o dan yr Athro Dr. Orhan Uzun, meddyg ymgynghorol sy\u2019n gyfrifol am ei adolygiadau cardiaidd rheolaidd. Mae Evan bellach yn blentyn heini ac iach yn ei arddegau, sy\u2019n chwarae p\u00eal-droed a chriced i glybiau lleol Caerdydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Peter, tad Evan: \u201cMae\u2019n fachgen ifanc hapus ac yn gwneud yn dda yn yr ysgol, ond mae ar ei hapusaf yn chwarae p\u00eal-droed neu griced i dimau lleol, yn ogystal \u00e2 chefnogi t\u00eem p\u00eal-droed cenedlaethol Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid ydym byth yn anghofio cymaint yr ydym yn ddyledus i d\u00eem cardiaidd anhygoel y plant yn Ysbyty Athrofaol Cymru, dan arweiniad yr Athro Orhan Uzun. Maen nhw wir yn wych am yr hyn maen nhw\u2019n ei wneud.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os hoffech gefnogi gwaith anhygoel yr Adran Cardioleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a\u2019r Fro, <a href=\"https:\/\/healthcharity.wales\/donate\/\">cliciwch yma i gyfrannu<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ar gyfer Mis Cenedlaethol y Galon ym mis Chwefror, rydym yn rhannu straeon ysbrydoledig a gwaith anhygoel yr Adran Gardioleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a\u2019r Fro. Ganwyd Evan Price ym mis Tachwedd 2009 yn Ysbyty Athrofaol Cymru ar \u00f4l beichiogrwydd iach a syml i\u2019w fam, Si\u00e2n. O fewn oriau o gael ei eni, roedd<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":20621,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-20623","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/20623","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=20623"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/20623\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":20624,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/20623\/revisions\/20624"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/20621"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=20623"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=20623"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=20623"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}