 {"id":20491,"date":"2023-02-07T08:43:11","date_gmt":"2023-02-07T08:43:11","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/?p=20491"},"modified":"2023-02-07T08:43:14","modified_gmt":"2023-02-07T08:43:14","slug":"mis-cenedlaethol-y-galon-leia-godwin","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/mis-cenedlaethol-y-galon-leia-godwin\/","title":{"rendered":"Mis Cenedlaethol y Galon &#8211; Leia Godwin"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2023\/02\/Leia2-768x469-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-20488\" width=\"440\" height=\"268\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2023\/02\/Leia2-768x469-1.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2023\/02\/Leia2-768x469-1-300x183.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2023\/02\/Leia2-768x469-1-250x153.jpg 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 440px) 100vw, 440px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ystod Mis Cenedlaethol y Galon, rydym yn hynod ddiolchgar am ein codwyr arian anhygoel sy\u2019n cefnogi\u2019r Gwasanaeth Cardioleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a\u2019r Fro yn barhaus.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ganwyd Leia Godwin yn 2019 ochr yn ochr \u00e2\u2019i gefell unfath Thea. Gan ystyried bod gan eu tad a\u2019u chwaer fawr Gracie gyflyrau ar y galon, archwiliwyd calonnau Leia a Thea yn fuan ar \u00f4l iddynt gael eu geni am unrhyw ddiffygion. Er y canfu twll bach yng nghalon Thea, roedd calon Leia yn berffaith iach.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn anffodus, ym mis Ebrill 2020 newidiodd hynny ar \u00f4l i gysylltiad \u00e2 COVID-19 na wyddant amdano ysgogi ymateb awtoimiwn yng nghorff Leia a achosodd i\u2019w rhydwel\u00efau coronaidd chwyddo gydag ymlediadau enfawr. Nodwyd cyflwr calon Leia yn gyflym, a darparwyd triniaeth i\u2019w atal rhag gwaethygu. Cafodd Leia ei rhyddhau o Ysbyty Arch Noa i Blant ar \u00f4l bod yno am fis.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">O ganlyniad i faint yr ymlediadau, bydd angen triniaeth a monitro ar Leia am weddill ei bywyd. Fel rhan o\u2019r gwaith o fonitro cyflwr Leia, mae lefelau ei gwaed yn cael eu harchwilio\u2019n rheolaidd gartref gyda\u2019r canlyniadau\u2019n cael eu trosglwyddo i\u2019r ysbyty dros y ff\u00f4n. Os yw INR Leia (cymhareb normaleiddio ryngwladol) allan o amrediad, mae\u2019n rhaid iddi fynd i\u2019r ysbyty i gael ecocardiogram i wirio am glotiau, yn ogystal \u00e2 dos ar unwaith o clexane (meddyginiaeth teneuo gwaed).<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae teulu Leia wedi bod wrthi\u2019n codi arian i wella darpariaeth y gwasanaeth i fabanod a phlant yng Nghymru drwy brynu offer newydd (megis dyfeisiau ECG symudol at ddefnydd cleifion ac offer telefeddygaeth ar gyfer gwneud diagnosis o gyflyrau\u2019r galon o bell), gweithgareddau ymchwil ac addysg, ac i ddatblygu platfform i deuluoedd sy\u2019n codi arian ar gyfer y gronfa Cardioleg Pediatrig. Ar hyn o bryd, mae swm anhygoel o \u00a31,706 wedi\u2019i godi ar y dudalen JustGiving.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ddiweddar, mae\u2019r teulu wedi prynu 15 oriawr Withings Move ECG i\u2019w rhoi i\u2019r adran. Wedi\u2019i chynllunio ar gyfer bywyd bob dydd, mae\u2019r oriawr hefyd yn draciwr gweithgarwch gan ein bod yn gwybod y gall gweithgarwch gael effaith gadarnhaol ar iechyd cardiofasgwlaidd. Bydd y rhoddion hyn yn gwella bywydau plant \u00e2 chyflyrau ar y galon yn uniongyrchol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Hoffem ddiolch yn fawr iawn i deulu Leia am eu hymroddiad i godi ymwybyddiaeth o gyflyrau Cardiofasgwlaidd, ac am eu cefnogaeth barhaus i\u2019r Gwasanaeth Cardioleg.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gallwch ddarllen mwy am eu hymdrechion codi arian ar <a href=\"https:\/\/www.bachiw.co.uk\/\">eu gwefan<\/a> ac os hoffech gyfrannu, ewch i\u2019w <a href=\"https:\/\/www.justgiving.com\/fundraising\/leiagodwin\">tudalen JustGiving.<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn ystod Mis Cenedlaethol y Galon, rydym yn hynod ddiolchgar am ein codwyr arian anhygoel sy\u2019n cefnogi\u2019r Gwasanaeth Cardioleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a\u2019r Fro yn barhaus. Ganwyd Leia Godwin yn 2019 ochr yn ochr \u00e2\u2019i gefell unfath Thea. Gan ystyried bod gan eu tad a\u2019u chwaer fawr Gracie gyflyrau ar y galon, archwiliwyd<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":20488,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-20491","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/20491","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=20491"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/20491\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":20492,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/20491\/revisions\/20492"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/20488"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=20491"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=20491"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=20491"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}