 {"id":19880,"date":"2022-12-08T15:38:38","date_gmt":"2022-12-08T15:38:38","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/?p=19880"},"modified":"2022-12-08T15:38:41","modified_gmt":"2022-12-08T15:38:41","slug":"voyage-to-recovery-2023-headroom","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/voyage-to-recovery-2023-headroom\/","title":{"rendered":"Voyage to Recovery 2023 Headroom"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/12\/aa9c7487-7dcd-4380-8ae3-e8d3d50a76c5.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-19878\" width=\"479\" height=\"268\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/12\/aa9c7487-7dcd-4380-8ae3-e8d3d50a76c5.jpg 1000w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/12\/aa9c7487-7dcd-4380-8ae3-e8d3d50a76c5-300x169.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/12\/aa9c7487-7dcd-4380-8ae3-e8d3d50a76c5-768x432.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/12\/aa9c7487-7dcd-4380-8ae3-e8d3d50a76c5-250x141.jpg 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 479px) 100vw, 479px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p>Pob lwc i\u2019r t\u00eem o Headroom sy\u2019n codi arian i gefnogi Voyage to Recovery Headroom 2023.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Headroom yn wasanaeth Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis (EIP) o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a\u2019r Fro, sy\u2019n cefnogi unigolion sy\u2019n profi pwl cyntaf o seicosis rhwng 14 a 25 oed.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r prosiect Voyage to Recovery yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o\u2019r anawsterau a wynebir gan bobl ifanc \u00e2 seicosis cynnar, eu potensial i gyflawni, ac mae\u2019n dangos pwysigrwydd cael gwasanaethau EIP effeithiol, gan ddefnyddio dull arloesol a\u2019r dyhead i fanteisio ar botensial tirwedd ac arfordir unigryw y wlad er budd iechyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y bobl ifanc yn hwylio Faramir, cwch hwylio cyflym 22m, a adeiladwyd yn bwrpasol ar gyfer hyfforddiant hwylio. Mae hwylio pellteroedd hir ynddi yn gofyn am lawer o ymdrech gorfforol a gwaith t\u00eem: codi, gostwng, a thrin yr hwyliau; tynnu rhaffau; llywio, cadw gwyliadwriaeth gyson a dysgu sut i fordwyo; coginio, glanhau a chynnal a gwaith cynnal a chadw bob dydd ar y cwch, a dysgu sgiliau allweddol bywyd ar yr un pryd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan lawer o\u2019r bobl ifanc ar y fordaith hon fywydau bob dydd sy\u2019n cael eu cyfyngu gan eu sefyllfa a\u2019u hamgylchiadau cymdeithasol, heb lawer o gyfleoedd ar gyfer profiadau newydd sy\u2019n caniat\u00e1u twf a hunanddatblygiad. Mae&#8217;r rhan fwyaf o ofal iechyd meddwl yn canolbwyntio ar geisio newid problemau&#8217;r unigolyn &#8211; i leihau symptomau gyda meddyginiaeth, neu i wella addasiad seicolegol gyda therapi. Nod y prosiect hwn yw mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r ffactorau sefyllfaol sy\u2019n gwneud pobl yn gaeth i\u2019w sefyllfa mewn bywyd ac i wasanaethau, trwy ddarparu amgylchedd hollol wahanol lle mae\u2019n bosibl datblygu hyder, sgiliau newydd, ymwneud \u00e2 hybu iechyd corfforol a rhoi persbectif newydd ar fywyd ar y lan.<\/p>\n\n\n\n<p>Digwyddiad cyntaf y t\u00eem fydd y Santa Dash ddydd Sul, 3 Rhagfyr. Os hoffech gefnogi\u2019r prosiect a rhoi cyfraniad, ewch i <a href=\"https:\/\/www.justgiving.com\/fundraising\/headroomvoyagetorecovery2023\">https:\/\/www.justgiving.com\/fundraising\/headroomvoyagetorecovery2023<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Pob lwc i\u2019r t\u00eem o Headroom sy\u2019n codi arian i gefnogi Voyage to Recovery Headroom 2023. Mae Headroom yn wasanaeth Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis (EIP) o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a\u2019r Fro, sy\u2019n cefnogi unigolion sy\u2019n profi pwl cyntaf o seicosis rhwng 14 a 25 oed. Mae\u2019r prosiect Voyage to Recovery yn gobeithio codi<\/p>\n","protected":false},"author":12,"featured_media":19878,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-19880","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/19880","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/12"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=19880"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/19880\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":19881,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/19880\/revisions\/19881"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/19878"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=19880"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=19880"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=19880"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}