 {"id":19869,"date":"2022-12-08T09:11:48","date_gmt":"2022-12-08T09:11:48","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/?p=19869"},"modified":"2022-12-08T09:11:51","modified_gmt":"2022-12-08T09:11:51","slug":"dro-da-dros-rhian","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/dro-da-dros-rhian\/","title":{"rendered":"Dro Da Dros Rhian"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/12\/Rhian-Griffiths-Lucy-and-Catherine.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-19814\" width=\"372\" height=\"279\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/12\/Rhian-Griffiths-Lucy-and-Catherine.jpg 640w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/12\/Rhian-Griffiths-Lucy-and-Catherine-300x225.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/12\/Rhian-Griffiths-Lucy-and-Catherine-250x188.jpg 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 372px) 100vw, 372px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p>Yn ddiweddar, cafodd rhai o d\u00eem Canolfan y Fron a\u2019r t\u00eem Codi Arian y pleser o gwrdd \u00e2 Rhian Griffiths, claf Canolfan y Fron a\u2019i chydweithiwr Catherine Evans o Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn gynharach yn y flwyddyn, trefnodd Catherine ynghyd \u00e2 Delyth Gray a tua 25 o gydweithwyr eraill o Wasanaethau Corfforaethol Estyn, her o gerdded 870 milltir rhyngddynt, sy\u2019n cwmpasu cyfanswm milltiroedd Llwybr Arfordir Cymru, mewn mis!<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd pob un ohonynt yn gwneud hyn i gefnogi eu ffrind a\u2019u cydweithiwr Rhian, a oedd yn derbyn triniaeth ar gyfer canser y fron, ac i godi arian at Ap\u00eal Canolfan y Fron Caerdydd a\u2019r Fro yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/12\/Cropped.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-19818\" width=\"323\" height=\"376\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/12\/Cropped.jpg 469w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/12\/Cropped-258x300.jpg 258w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/12\/Cropped-215x250.jpg 215w\" sizes=\"auto, (max-width: 323px) 100vw, 323px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p>Adeg yr her, dywedodd Delyth, \u201cRydym yn cymryd rhan yn yr her arbennig hon i gefnogi cydweithiwr arbennig, Rhian Griffiths, sy\u2019n cael triniaeth yng Nghanolfan y Fron ar hyn o bryd. &nbsp;Mae Rhian yn gydweithiwr a ffrind caredig, ystyriol a bywiog. &nbsp;Rydym yn colli ei chwmni yn fawr ar hyn o bryd ac yn edrych ymlaen at ei gweld yn \u00f4l yn y gwaith pan fydd hi wedi gwella\u2019n llwyr. &nbsp;Mae Rhian yn gerddwr brwd, felly mae\u2019r her hon yn ddewis perffaith!\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Rhian wedi\u2019i syfrdanu gan y gefnogaeth, ac wrth ei bodd gyda\u2019r cyfanswm codi arian o \u00a35,096.25 i gefnogi Ap\u00eal Canolfan y Fron! &nbsp;Dywedodd, \u201cMae wedi bod yn gymysgedd gyson o adegau da ac adegau gwael, ond mae\u2019r tosturi a\u2019r gofal wedi bod yn anghredadwy.&nbsp; Rwy\u2019n teimlo\u2019n freintiedig iawn o fod wedi cael llawfeddyg mor wych \u00e2 Lucy Satherley sydd mor angerddol am ei gwaith.&nbsp; Nid yw rhannu newyddion anodd byth yn hawdd ond mae gan y staff natur mor dawel, caredig a phendant, rydych chi\u2019n teimlo\u2019n ddiogel.&nbsp; Mae derbyn y newyddion bod gennych ganser yn ddinistriol ac yn achosi llawer o ofid.&nbsp; Fodd bynnag, ar \u00f4l y sioc gychwynnol, roeddwn i\u2019n gwybod fy mod i mewn dwylo diogel.\u201d<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/12\/Rhians-Ramble-2.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-19822\" width=\"371\" height=\"279\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/12\/Rhians-Ramble-2.jpg 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/12\/Rhians-Ramble-2-300x225.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/12\/Rhians-Ramble-2-768x576.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/12\/Rhians-Ramble-2-250x188.jpg 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 371px) 100vw, 371px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p>Roedd Lucy Satherley, Llawfeddyg Ymgynghorol yng Nghanolfan y Fron, yn gallu ymuno \u00e2 ni pan gwrddon ni \u00e2 Rhian ac roedd hi wrth ei bodd yn ei gweld hi.&nbsp; Dywedodd Lucy, \u201cRoedd yn bleser pur gweld Rhian yn edrych mor dda a chael cwrdd \u00e2 Catherine. &nbsp;Rydym mor ddiolchgar i Rhian a\u2019i chydweithwyr am ymgymryd \u00e2\u2019r her wych hon a hoffem ddiolch i bob un ohonynt, a\u2019r rhai sydd wedi eu cefnogi a\u2019u noddi, am eu haelioni wrth gefnogi Ap\u00eal Canolfan y Fron. &nbsp;Bydd eu gwaith caled a\u2019u caredigrwydd yn ein helpu i ddarparu\u2019r offer a\u2019r adnoddau gorau i sicrhau bod ein staff gwych yn gallu parhau i ddarparu gofal rhagorol i\u2019n cleifion.&nbsp; Da iawn a diolch yn fawr gennym ni i gyd!\u201d<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/12\/Rhians-Ramble-Catherine.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-19820\" width=\"394\" height=\"296\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/12\/Rhians-Ramble-Catherine.jpg 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/12\/Rhians-Ramble-Catherine-300x225.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/12\/Rhians-Ramble-Catherine-768x576.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/12\/Rhians-Ramble-Catherine-250x188.jpg 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 394px) 100vw, 394px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p>Yn ystod ei chyfnod yng Nghanolfan y Fron, bu Rhian hefyd yn derbyn gofal gan Jessica Chick, Nyrs yng Nghanolfan y Fron, a oedd yn ddisgybl i Rhian mewn blynyddoedd blaenorol!&nbsp; Yn anffodus, nid oedd Jess yn gallu ymuno \u00e2 ni pan gwrddon ni \u00e2 Rhian, ond roedd gan Rhian feddwl mawr ohoni ac roedd yn ddiolchgar iawn am y gofal a ddarparodd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Rhian yn gwneud yn eithriadol o dda gyda\u2019i thriniaeth, ac yn \u00f4l yn gweithio mewn r\u00f4l newydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.&nbsp; Mae hi eisoes yn cynllunio digwyddiad codi arian arall ar gyfer haf 2023 ac yn gobeithio codi arian i brynu offer newydd fydd yn rhoi cefnogaeth uniongyrchol i ofal unrhyw un arall sy\u2019n cael triniaeth yng Nghanolfan y Fron Caerdydd a\u2019r Fro.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd Sue Dickson-Davies, Uwch Swyddog Codi Arian Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro ac Ap\u00eal Canolfan y Fron, \u201cRoedd yn bleser cwrdd \u00e2 Rhian a Catherine, a chael diolch iddynt yn bersonol am gefnogi ein Hap\u00eal Canolfan y Fron.&nbsp; B\u00fbm yn cydweithio\u2019n agos iawn \u00e2 Delyth Gray i gynorthwyo gydag elfen codi arian yr her, ac roedd yn hyfryd dilyn eu cynnydd a rhannu eu lluniau arbennig.&nbsp; Maen nhw wedi pasio eu targed gwreiddiol o bell ffordd, a oedd yn parhau i godi yn sgil y gefnogaeth a gafwyd, gan ddangos cymaint roedden nhw i gyd yn ei feddwl o\u2019u ffrind a\u2019u cydweithiwr.&nbsp; Edrychaf ymlaen at gefnogi Rhian gyda\u2019i digwyddiadau codi arian fydd yn parhau, a hoffwn ddiolch i bawb a fu\u2019n cymryd rhan hyd yma am gefnogi ein Hap\u00eal Canolfan y Fron.\u201d<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"828\" height=\"353\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/12\/Rhians-Ramble-4.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-19824\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/12\/Rhians-Ramble-4.jpg 828w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/12\/Rhians-Ramble-4-300x128.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/12\/Rhians-Ramble-4-768x327.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/12\/Rhians-Ramble-4-250x107.jpg 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 828px) 100vw, 828px\" \/><\/figure><\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn ddiweddar, cafodd rhai o d\u00eem Canolfan y Fron a\u2019r t\u00eem Codi Arian y pleser o gwrdd \u00e2 Rhian Griffiths, claf Canolfan y Fron a\u2019i chydweithiwr Catherine Evans o Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru. Yn gynharach yn y flwyddyn, trefnodd Catherine ynghyd \u00e2 Delyth Gray a tua 25 o gydweithwyr eraill o Wasanaethau Corfforaethol<\/p>\n","protected":false},"author":12,"featured_media":19814,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-19869","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/19869","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/12"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=19869"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/19869\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":19871,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/19869\/revisions\/19871"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/19814"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=19869"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=19869"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=19869"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}